Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Mehefin 2012

Rhoi llais i’r dinesydd mewn gwasanaethau cymdeithasol

Bydd gan ddefnyddwyr rôl ganolog i’w chwarae yn y penderfyniadau mawr am ofal cymdeithasol yng Nghymru yn dilyn cyhoeddi cynlluniau heddiw gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Gwenda Thomas.

 

Drwy ddefnyddio dull newydd arloesol, bydd y Dirprwy Weinidog yn sefydlu panel o ddinasyddion i roi llais i ofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau cymdeithasol yn y penderfyniadau strategol pwysig a wneir ar lefel Cymru gyfan.

Gwnaed y cyhoeddiad hwn yn ystod cynhadledd gwasanaethau cymdeithasol o bwys yn Llandudno. Roedd y digwyddiad, dan arweiniad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cynnwys prif anerchiad gan y Dirprwy Weinidog. Yn ystod yr anerchiad soniodd am yr heriau sy’n wynebu’r sector a’r datblygiadau sy’n digwydd ar hyn o bryd ac yn ystod y 12 mis nesaf.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Y newid pwysicaf y gallwn ei wneud yw rhoi ffordd i ddefnyddwyr a gofalwyr ddylanwadu ar y penderfyniadau gwirioneddol fawr sy’n cael eu gwneud ar lefel Cymru gyfan. Yn 2011 fe wnes i sefydlu Fforwm Partneriaeth sy’n dod â holl brif randdeiliaid y gwasanaethau cymdeithasol ynghyd. Nawr byddaf i a’r fforwm yn gallu gwrando ar brofiadau a safbwyntiau’r bobl bwysicaf, sef y dinasyddion sy’n ddibynnol ar y gwasanaethau hyn bob dydd.”

Croesawodd y Dirprwy Weinidog aelodau llywodraeth leol newydd a phwysleisiodd rôl allweddol llywodraeth leol mewn gwasanaethau cymdeithasol. Dywedodd wrth y gynhadledd fod gwasanaethau cymdeithasol wrth wraidd llywodraeth leol, a bod gan y cynghorau y sgôp i ddefnyddio eu dyletswyddau o ran arweiniad a lles cymunedol fel ysgogiadau pwerus a fydd yn sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen i wneud gwasanaethau cymdeithasol yn gynaliadwy i’r dyfodol.

Hefyd dywedodd wrth y gynhadledd y bydd fframwaith yn cael ei ddatblygu i fonitro a yw pobl yn cael gwasanaethau gwell, ac y bydd tîm safonau, perfformiad a gwella newydd yn cael ei gyflwyno i annog rhannu arfer da a rhagoriaeth mewn gwasanaethau cymdeithasol.

Yna rhoddodd y Dirprwy Weinidog yr wybodaeth ddiweddaraf i’r gynhadledd am Fil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) sydd ar fin cael ei gyflwyno: “Rwy’n ddiolchgar am y nifer fawr o ymatebion a gafwyd i’n hymgynghoriad diweddar ar Fil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru).

"Mae hwn yn gyflawniad arwyddocaol sy’n dangos faint mae pobl yn gwerthfawrogi’r gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r ymatebion wedi rhoi digon inni gnoi cul arnynt, ac er mwyn gwneud yn siŵr bod y darn hanfodol hwn o ddeddfwriaeth yn iawn cytunwyd y bydd y Bil yn cael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ddechrau 2013. Rhaid inni roi ystyriaeth lawn i’r materion pwysig sy’n cael eu codi.”

 Llun: Gwenda Thomas


 

Rhannu |