Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Mehefin 2012

Dylai bancwyr wynebu cyhuddiadau dros gamdrafod ariannol

Mae Jonathan Edwards, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, wedi galw am ymchwiliad troseddol difrifol i’r hyn sy’n mynd mlaen ym manc Barclays wedi iddynt gael dirwy o £290m am gamdrafod graddfeydd llog LIBOR rhwng 2005 a 2009.

Dywedodd Mr Edwards fod y banciau, er gwaethaf bod yn brif achos yr argyfwng ariannol, wedi ei chael hi’n llawer rhy hawdd mewn blynyddoedd diweddar, a ble y gellir sefydlu euogrwydd yna dylai’r rhai sy’n gyfrifol fod yn wynebu carchar dros eu troseddau.

Ychwanegodd fod hyn oll wedi digwydd dan y llywodraeth Lafur diwethaf.

Dywedodd Mr Edwards: “O fewn y sector bancio mae yna ddiwylliant o hawl, o gael rhywbeth am ddim byd.

“Mae’r FSA wedi casglu fod yna gamdrin a chamdrafod graddfeydd llog wedi cymryd lle a oedd yn ffafrio Barclays.

“Mae unigolion sy’n twyllo budd-daliadau neu ceisio chwarae’r system er elw personol yn wynebu cyhuddiadau troseddol a charchar – pam felly nid bancwyr sy’n twyllo’r marchnadoedd gan wneud biliynau o bunnoedd?

“Ym mha fyd mae hi’n dderbyniol i gwmni gael ei ddirwyo £290m a’r unig gosb yw cynnig ildio bonws. Ar ba blaned mae’r bobl hyn yn byw?

“Nid yw llys y farn gyhoeddus yn credu fod pobl gyfoethog yn twyllo’n ariannol yn dderbyniol. Mae’r math hyn o newyddion yn erydu craidd cymdeithas.

“Rhaid i ni gofio fod hyn oll wedi cymryd lle dan y llywodraeth Lafur diwethaf, pan oedd Ed Balls ac Ed Miliband yn y llwyodraeth, mewn cyfnod pan oedd agwedd Llafur tuag ag bobl yn ennill ffortiwn anferth yn hamddenol a dweud y lleiaf.

“Does dim gwahaniaeth o gwbl rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr yn eu hagwedd warthus tuag at y cyfoethog yn y sector ariannol a’u rheoleiddio ysgafn a helpodd y Ddinas ar draul y cyhoedd.

“Mae’r helyntion dros dreuliau ASau, hacio ffonau a’r argyfwng ariannol i gyd wedi digwydd pan fo Llafur wrth y llyw.

“Y ffaith yw, dwy ochr o’r un geiniog yw Llafur a’r Toriaid – wastad yn rhoi buddiannau’r cyfoethog o flaen pobl Cymru.

“Mae Plaid Cymru wedi galw’n gyson am wahanu banciau manwerthu a buddsoddi. Ni allwn fyth eto fod mewn sefyllfa ble fo arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio i gefnogi risgiau’r buddsoddwyr.”

Llun: Jonathan Edwards

Rhannu |