Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Mehefin 2012

Anrhydedd arbennig i Arweinydd “The Choir”

Yr arweinydd, canwr a’r cyflwynydd, Gareth Malone fydd yn derbyn anrhydedd Gwestai Gwadd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ar ddydd Sul Gorffennaf yr 8fed 2012.

Bydd Gareth Malone a ddaeth i enwogrwydd yn sgil llwyddiant cyfres boblogaidd ‘The Choir’ ar BBC2 (cynhyrchwyd gan Twenty Twenty) yn annerch y gynulleidfa cyn Cyngerdd Y Finale ar y nos Sul. Derbyniodd anrhydedd yn nathliadau Jiwbilî'r Frenhines yn ddiweddar. Bydd y Cyngerdd Mawreddog yn cynnwys perfformiadau gan John Owen Jones, Wynne Evans, Mark Llewellyn Evans, Fflur Wyn, Côr CF1 a llawer mwy.

Dywedodd Gareth Malone, “Mae gan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen draddodiad cyfoethog o ganu corawl ac mae Tlws Pavarotti yng Nghystadleuaeth nodedig Côr y Byd wedi codi ei statws yn fyd eang. Mae’n fraint i gael bod yn Westai Gwadd mewn gŵyl sydd â thraddodiad corawl mor gyfoethog ag sydd yn cael cefnogaeth ymwelwyr o bob cwr o’r byd.”

Trwy gydol y pedair cyfres deledu, mae ‘The Choir” wedi bod yn llwyddiant ysgubol, yn ennill BAFTA a Gwobr Darlledu RBS. Mae Gareth Malone bellach yn eicon Prydeinig ac yn ffigwr cyhoeddus adnabyddus sydd wedi llwyddo i sathru ar y damcaniaeth na all fechgyn ganu yn ‘Boys Don’t Sing’, fe unodd gymuned gyfan mewn cor yn ‘Unsung Town’ a llwyddodd i sicrhau bod côr y ‘Military Wives’ yn dringo i frig y siartiau Prydeinig Nadolig y llynedd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Eilir Griffiths, “Mae’n deyrnged deilwng i wahodd Gareth Malone i fod yn Westai Gwadd o gofio ei gyfraniad dros y blynyddoedd diwethaf i Gerddoriaeth Gorawl. Mae wedi poblogeiddio a chodi proffil y traddodiad yn sgil ei waith called.”

 

Rhannu |