Mwy o Newyddion

RSS Icon

Angen mwy o bwerau i reoli faint o alcohol sydd ar gael

Mae adroddiad newydd gan Alcohol Concern Cymru yn mynnu bod angen mwy o bwerau ar awdurdodau trwyddedu yng Nghymru a Lloegr i reoli faint o alcohol sydd ar gael yn eu hardaloedd. Mae’r adroddiad Llawn dop? yn dweud, ar y cyd â chynyddu pris alcohol, fod cyfyngu ar faint o lefydd y caiff alcohol ei werthu’n ffordd effeithiol i leihau’r niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol.

Mae’r elusen yn dadlau y bydd rhoi rhagor o ffyrdd i awdurdodau trwyddedu reoli faint o alcohol sydd ar gael, yn enwedig yng nghanol trefi a dinasoedd lle mae nifer mawr o safleoedd yn gwerthu alcohol yn agos iawn at ei gilydd, yn helpu yn y frwydr i ostwng lefelau’r niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol.

Eglurodd Mark Leyshon o Alcohol Concern: “Mae’n amlwg erbyn hyn mai dau o’r dulliau allweddol i leihau’r niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yw cynyddu pris alcohol a chyfyngu ar faint o fannau y caiff ei werthu. Bydd lleiafswm pris am bob uned yn cael ei gyflwyno yng Nghymru a Lloegr cyn hir, ond bydden ni hefyd yn hoffi gweld newidiadau i’r deddfau trwyddedu er mwyn rhoi rhagor o bwerau i awdurdodau lleol reoli faint o safleoedd sy’n gwerthu alcohol.”

“Mae’r llacio graddol ar ddeddfau trwyddedu yn y blynyddoedd diwethaf wedi golygu ei bod hi’n llawer haws cael gafael ar alcohol. Mae safleoedd trwyddedig wedi cynyddu o ran nifer, maint a math. Felly, mae lle i fwy a mwy o yfwyr yng nghanol ein trefi a’n dinasoedd. Yn anffodus, mae cost i hyn, sef mwy o oryfed a thrais sy’n gysylltiedig ag alcohol. O ganlyniad mae nifer ohonon ni’n ystyried canol ein tref yn lle i’w osgoi gyda’r nos.”

 Ychwanegodd e:  “Yn eu strategaeth alcohol newydd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cydnabod yn gwbl gywir bod angen i gymunedau lleol gael cyfyngu ar faint o lefydd sy’n gwerthu alcohol, lle mae hynny’n cyfrannu at niwed. Dylai Cymru a Lloegr ddilyn esiampl yr Alban, lle mae gan gyrff trwyddedu ragor o bwerau i wrthod ceisiadau am drwyddedau newydd mewn ardaloedd lle maen nhw’n gweld bod gormod o safleoedd yn gwerthu alcohol.”

 “Yn y pen draw, cael y cydbwysedd cywir rhwng economi nos ddeniadol a bywiog a sicrhau nad yw gwerthu ac yfed alcohol yn drech na phob dim arall yw’r nod.”

 

Mae Alcohol Concern yn argymell:

·         Dylai Cymru a Lloegr ddilyn yr enghraifft sydd yn neddfwriaeth drwyddedu’r Alban, sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau trwyddedu ystyried nifer y safleoedd trwyddedu a lle i faint o yfwyr sydd ynddynt wrth wneud eu penderfyniadau trwyddedu

·         Fel yn yr Alban, dylai gwarchod iechyd cyhoeddus ddod yn bumed amcan i’r Ddeddf Drwyddedu yng Nghymru a Lloegr, fel y gall cynghorau lleol wneud penderfyniadau trwyddedu ar sail yr effaith ar iechyd lleol

·         Dylai awdurdodau trwyddedu barhau i archwilio a mabwysiadu mentrau lleol a allai helpu i ostwng lefelau’r niwed sy’n cael ei achosi gan grynhoi llawer o safleoedd trwyddedig yng nghanol trefi a dinasoedd

·         Rhaid i drigolion lleol allu lleisio eu barn ynglŷn ag amlder safleoedd gwerthu alcohol, a chael mwy o lais mewn penderfyniadau trwyddedu yn eu hardal, a dylai cynghorau lleol weithio i gefnogi hyn.

 

Rhannu |