Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Mehefin 2012

Cysylltiad Laudrup yn gwella proffil Danaidd Abertawe

Bydd miliynau o Ddaniaid yn gwylio Bae Abertawe ar gyfer gêmau'r Uwch-gynghrair oherwydd penodi Michael Laudrup fel rheolwr newydd yr Elyrch.

Mae timau y mae Laudrup wedi'u rheoli yn y gorffennol, gan gynnwys Getafe a Mallorca, wedi bod yn nodedig yn Nenmarc oherwydd statws arwrol y rheolwr 48 oed yn ei wlad.

Mae rheolwyr twristiaeth Cyngor Abertawe yn datgan y bydd y sylw yn helpu i wella proffil Bae Abertawe hyd yn fwy fel lleoliad i ymwelwyr ym mhedwar ban y byd a gallai hyd yn oed annog mwy o ymwelwyr i ddod i'r ardal yn y dyfodol.

Maent hefyd yn galw ar ddarparwyr llety a gweithgareddau lleol i fod ar gael gyda chroeso cynnes y Cymry os bydd Daniaid yn teithio i Fae Abertawe i ddarganfod cartref newydd Laudrup drostynt eu hunain.

Mae penodi Laudrup yn cryfhau cysylltiadau Abertawe â Denmarc hyd yn oed yn fwy. Dywed i'r ddinas gael ei sefydlu gan Sweyn Forkbeard, Brenin Llychlynnaidd Denmarc, a orchfygodd yr Eingl-sacsoniaid ym 1013. Dywedir hefyd fod yr enw 'Swansea' yn dod o gyfuniad o 'Sweyn' a'r hen air Norseg am fornant, sef 'Sey'.

Roedd dyn arall o Ddenmarc, sef Jan Molby hefyd wedi rheoli'r Elyrch yn y 1990au ac mae prifddinas Denmarc, sef Copenhagen, ac Abertawe â chysylltiad agos â dau o'r awduron enwocaf erioed sef Hans Christian Anderson a Dylan Thomas.

Meddai'r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, "Mae penodi Michael Laudrup nid yn unig yn fantais i'r Elyrch, mae hefyd yn fantais i Fae Abertawe cyfan oherwydd ei apêl fyd-eang.

"Mae'n cael ei gydnabod fel un o'r peldroedwyr gorau erioed a bydd hynny'n helpu i wella proffil Bae Abertawe hyd yn oed yn fwy a'r hyn y gall yr ardal ei gynnig i ymwelwyr o bedwar ban y byd."

Meddai Steve Hopkins, Rheolwr Twristiaeth Cyngor Abertawe, "Roeddem wedi cynnal marchnata helaeth n yr ardaloedd sy'n hoff o bêl-droed yn y DU yn ystod tymor cyntaf yr Elyrch yn yr Uwch-gynghrair. Roedd hyn yn golygu bod miloedd o gefnogwyr oddi cartref yr Uwch-gynghrair wedi gadael gydag argraff gadarnhaol iawn o'r ddinas ac maent wedi'u hannog i ddychwelyd yn y dyfodol. Ni fyddai llawer o'r ymwelwyr hynny wedi dod i Abertawe oni bai am y pêl-droed.

"Mae'r Uwch-gynghrair yn denu sylw byd-eang ac rydym yn gobeithio y bydd statws Laudrup yn Nenmarc yn denu llawer o Ddaniaid i wylio Bae Abertawe yng ngemau'r Uwch-gynghrair. Gallai hyn arwain at ymwelwyr Danaidd yn y dyfodol.

"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid i adeiladu ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni eisoes o ran twristiaeth pan fydd yr Uwch-gynghrair yn cychwyn unwaith eto ym mis Awst."

Cadarnhawyd y bydd gêm gartref gyntaf yr Elyrch yn erbyn West Ham ddydd Sadwrn 25 Awst.

Chwaraeodd Michael Laudrup 104 o weithiau dros Ddenmarc rhwng 1982 a 1998. Chwaraeodd i glybiau gan gynnwys Juventus, Barcelona a Real Madrid. Mae Andres Iniesta, chwaraewr Barcelona a Sbaen, sydd wedi ennill cwpan y byd, wedi disgrifio Laudrup fel chwaraewr gorau'r byd erioed.

Llun: Michael Laudrup

 

Rhannu |