Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Mehefin 2012

Dathlu dawns a cherddoriaeth rhyngwladol yn Llangollen ar S4C

Mae dawnswyr lliwgar, offerynwyr talentog a chantorion a chorau o bedwar ban byd yn ymgynnull i gymryd rhan yng ngŵyl unigryw Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ar ddechrau Gorffennaf bob blwyddyn.

Unwaith eto eleni bydd S4C yn cynnig darllediadau cynhwysfawr o’r Eisteddfod gydol yr wythnos gyda Nia Roberts, Trystan Ellis-Morris, Alwyn Humphreys, Mari Grug ac Wyn Davies yn cyflwyno rhaglenni byw a phecynnau uchafbwyntiau.

Bydd y cyflwynwyr yn dilyn y gorau o’r cystadlu ar lwyfan Pafiliwn Llangollen ac yn cyfleu awyrgylch y dref a’r maes. Bydd y tîm hefyd yn cyflwyno cystadleuaeth Côr y Byd yn fyw nos Sadwrn, 7 Gorffennaf wrth i enillwyr cystadlaethau corawl yr wythnos fynd benben am y brif wobr, sef Tlws Pavarotti.

"Mae cerdded o gwmpas y maes yn Llangollen yn brofiad ynddo’i hun," eglura Hefin Owen o gwmni Rondo, sy’n gyfrifol am ddarllediadau S4C o Langollen. "Gyda’r môr o liw, y canu a’r dawnsio a’r cystadleuwyr rhyngwladol, mae’r awyrgylch gyfeillgar yn eich taro’n syth. Yn sicr mae’n argoeli bod yn Ŵyl gofiadwy unwaith eto.

"Eleni, mae yna Gyfarwyddwr Cerdd newydd wrth y llyw ac mae Eilir Owen Griffiths wedi creu amserlen gyffrous ac atyniadol i 'Steddfod Llangollen, gan gynnwys cystadleuaeth newydd Côr y Sioe Gerdd ar y nos Iau. Yn rhan o'r arlwy eleni bydd yr orymdaith liwgar trwy’r dref i ddechrau'r Ŵyl ar y dydd Mawrth, cystadleuaeth Côr y Byd sy'n dathlu’r corau gorau ar y nos Sadwrn a Chyngerdd Heddwch arbennig ar nos Wener, sy’n cynnwys perfformiad arbennig o waith Karl Jenkins, ‘The Peacemakers’. Bydd uchafbwyntiau o'r gyngerdd yna’n cael eu darlledu ar S4C nos Sul, 8 Gorffennaf."

Mae Trystan Ellis-Morris, sydd hefyd yn wyneb amlwg ar Cyw – gwasanaeth meithrin y Sianel, yn edrych ymlaen at gyflwyno o Langollen am y trydydd tro.

Meddai Trystan, "Mae Eisteddfod Llangollen yn wahanol iawn i unrhyw 'Steddfod arall dwi 'di bod iddi. Mae’n rhoi cyfle i berfformwyr o Gymru i America ac o Dde Affrica i Awstralia berfformio ar yr un llwyfan ac addysgu pobl am eu diwylliant unigryw nhw. Mae’r cyfeillgarwch sydd rhwng pawb yn ystod yr wythnos yn anhygoel ac mae pawb yn dathlu'r ffaith bod diwylliannau gwahanol yn gallu rhannu’r un llwyfan a dod ynghyd i fwynhau’r achlysur arbennig hwn!"

Gydol yr wythnos gallwch hefyd ddilyn y cystadlu, yn ogystal â gweld holl ganlyniadau’r llwyfan ar-lein ar www.llangollen.tv.

Llangollen '12

Yn dechrau nos Fawrth 3 Gorffennaf 8.25pm

Darllediadau byw dydd Mercher - Gwener 1.05pm, S4C

Uchafbwyntiau nos Fercher - Gwener, 8.25pm; S4C

 

Rhannu |