Mwy o Newyddion
22 Mehefin 2012
Dysgu am hanes Cymru
Yn y seminar ar y Gymraeg, Technoleg a’r Cyfryngau Digidol yng Nghaerdydd ddoe fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, cynlluniau gan Llywodraeth Cymru i ddatblygu deunyddiau dysgu newydd am hanes Cymru ar gyfer ysgolion.
Dywedodd y Gweinidog: “Mae’r gyfres ddiweddar Story of Wales, ar BBC Cymru, wedi ysgogi cryn dipyn o ddiddordeb mewn hanes Cymru ac rydym yn ymchwilio i sut y gallwn ddatblygu deunyddiau, sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm ac sydd wedi ei seilio ar y gyfres.”