Mwy o Newyddion
Darlledu'n fyw o Ŵyl Lenyddiaeth Dinefwr
Ar gychwyn digwyddiadau haf BBC Radio Cymru, bydd Nia Roberts, cyflwynydd rhaglen gylchgrawn sgyrsiol yr orsaf yn darlledu’n fyw o Ŵyl Lenyddiaeth Dinefwr, ddydd Sadwrn, Mehefin 30.
Yn llais boreol BBC Radio Cymru ac yn un o wynebau cyfarwydd S4C yn cyflwyno Pethe ac Eisteddfod yr Urdd, bydd Nia yn profi awyrgylch yr Ŵyl fydd yn fwrlwm cyffrous o gerddoriaeth, perfformiadau, comedi a llenyddiaeth. Ni fydd y gwrandawyr adre yn colli cyfle i fod yn rhan o’r digwyddiad chwaith gan y bydd Nia yn sgwrsio gyda hwn a’r llall, ac yn rhannu profiadau trefnwyr ac ymwelwyr yr Ŵyl.
Dros 14 wythnos ym mis Mehefin, Gorffennaf, Awst a Medi, mi fydd BBC Radio Cymru yn ymweld â digwyddiadau mawr a bach, celfyddydol ac amaethyddol dros Gymru gyfan gan sgwrsio a chyfweld â nifer helaeth o bobl y wlad. Bydd wynebau a lleisiau cyfarwydd yr orsaf yn teithio led-led y wlad er mwyn dod â hwyl, diwylliant a bwrlwm cymunedau ar draws Cymru i’r gwrandawyr.
Meddai Golygydd Rhaglenni Cyffredinol BBC Radio Cymru, Lowri Davies: “Mae’n hanfodol bwysig i Radio Cymru ein bod yn darlledu hafau ein gwrandawyr. Ein nod yw mynychu a chefnogi digwyddiadau lleol a chenedlaethol, gwyliau a dathliadau sy’n bwysig i’n gwrandawyr a rhoi’r rhain wrth galon ein rhaglenni yr haf yma. Rwy’n siwr y bydd y rhaglenni yn ddiddorol ac yn taro nodyn gyda’n cynulleidfa - hen a newydd.”