Mwy o Newyddion
Cofnod Cymraeg – Cymdeithas yn croesawu sicrwydd
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu'r newyddion y bydd dyletswydd statudol ar y Cynulliad i gyhoeddi Cofnod cwbl ddwyieithog o'i sesiynau llawn yn dilyn pleidlais ar y Bil Ieithoedd Swyddogol ddydd Iau.
Fodd bynnag, mae'r mudiad wedi galw ar i ACau wneud rhagor o newidiadau i'r Bil Ieithoedd Swyddogol i sicrhau bod cofnod o holl drafodion y Cynulliad yn cael ei gyhoeddi yn llawn yn Gymraeg ar yr un pryd â'r Saesneg. Mae'r mudiad yn dadlau bod cyhoeddi dogfen yn y ddwy iaith ar yr un pryd yn ofyniad sylfaenol ac yn egwyddor bwysig sydd wedi ei hen sefydlu yng Nghymru, ac felly ni ddylai'r Cynulliad ei thanseilio.
Dywedodd Ceri Phillips, llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydyn ni'n croesawu'r newidiadau i'r Bil – mae ymgyrch dorfol y Gymdeithas wedi dechrau dwyn ffrwyth. Wedi dweud hynny, rydym wedi ein siomi nad oedd cefnogaeth i welliannau Suzy Davies ac Aled Roberts - gwelliannau a fyddai'n sicrhau bod yr holl drafodion ar gael yn Gymraeg ac y byddai fersiynau Cymraeg a Saesneg yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd. Felly, fe fyddwn ni'n parhau gyda'n hymgyrch i wella'r Bil dros y cyfnod craffu nesaf.
“Mae dogfennau ein deddfwrfa yn hollbwysig nid yn unig o safbwynt hawliau moesol pobl i ddefnyddio'r Gymraeg - ac yn hollbwysig, statws y Gymraeg fel iaith swyddogol - ond hefyd i gorpws iaith y Gymraeg. Mae teclynnau arlein Google Translate, Cysill ac eraill yn elwa o'r corpws iaith a ddatblygir gan y Cynulliad. Felly, maen nhw'n cael effaith uniongyrchol positif ar ddefnydd yr iaith.”
“Nid oes amheuaeth bod gan y Cynulliad record wael ar faterion Cymraeg yn ddiweddar. Dros y 3 blynedd diwethaf, mae buddsoddiad yn y Gymraeg gan Gomisiwn y Cynulliad wedi gostwng o dros 14%, tra bod y gyllideb yn gyffredinol wedi cynyddu'n sylweddol. Am 17 mis mi oedd y Cynulliad yn torri ei gynllun iaith, ac mae defnydd y Gymraeg yn y Cynulliad yn isel. Dylai hynny fod yn fater o embaras i'n deddfwrfa genedlaethol. Nid ydym yn derbyn y sylwadau gan rai gwleidyddion sy'n awgrymu mai dewis rhwng cyfieithu a defnydd yw hyn. Mae digon o ymchwil yn profi bod statws iaith leiafrifol yn effeithio'n uniongyrchol ar ei defnydd. Dyna pam mae angen cryfhau'r Bil a'r Cynllun arfaethedig yn bellach.”
Mae'r mudiad hefyd wedi croesawu cefnogaeth y Cyng. Dyfrig Jones a Meirion Prys Jones, cyn-brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, i'r alwad dros newidiadau pellach i'r Bil.