Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Mehefin 2012

Ailbenodi Cadeirydd Cyngor y Celfyddydau

CYHOEDDODD Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ddoe y bydd yr Athro Dai Smith yn cael ei ailbenodi fel Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.

Daw tymor presennol yr Athro Dai Smith i ben ar 31 Mawrth 2013, ac mae wedi cytuno i weithio am dymor arall hyd at 31 Mawrth 2016.

Dywedodd Mr Lewis: “Rwyf wrth fy modd bod yr Athro Smith wedi cytuno i barhau â’i waith fel Cadeirydd Cyngor y Celfyddydau am drydydd tymor. Mae ei wybodaeth a’i brofiad helaeth yn sector y celfyddydau wedi bod yn amhrisiadwy dros y blynyddoedd diwethaf gan fod y sector wedi wynebu cyfnod arbennig o heriol.

"Gan fod y gwaith o gynnal Adolygiad Buddsoddi cynhwysfawr Cyngor Celfyddydau Cymru o’i bortffolio o gleientiaid a’r Adolygiad Sefydliadol sylfaenol o’i strwythur mewnol bellach wedi dod i ben, rwy’n edrych ymlaen at weld yr Athro Smith yn arwain Cyngor mwy darbodus wrth fynd i’r afael yn uniongyrchol â’r heriau parhaus sy’n wynebu’r sector a sicrhau bod celfyddydau o ansawdd uchel ar gael yn hawdd i bobl Cymru i gyd i fanteisio arnyn nhw.”

Dywedodd yr Athro Dai Smith: “Mae cael eich gofyn i barhau i ddatblygu Cyngor y Celfyddydau am dair blynedd arall yn gyfrifoldeb rwy’n ei ystyried yn fraint ac yn anrhydedd.

"Mae wedi bod o gymorth mawr i mi weithio gyda Chyngor mor ymroddgar a gyda’r staff sydd, ar bob lefel, wedi dangos eu hymrwymiad i’r celfyddydau. Does gen i ddim amheuaeth bod creadigrwydd a bywiogrwydd y celfyddydau yng Nghymru mor hanfodol ag erioed i’n datblygiad fel cymdeithas sifil ddylanwadol, llawn pwrpas.

"Byddwn yn gwrando, byddwn yn gweithredu mewn partneriaeth, byddwn yn hwyluso creadigrwydd a chyfleoedd i gymryd rhan, a byddwn yn barod bob tro i gymryd risgiau priodol neu i gynnig arweiniad adeiladol.”

Cafodd Dai ei eni yn y Rhondda ym 1945 a chafodd ei addysg yn Ysgol Sirol y Porth ac Ysgol Ramadeg y Barri. Astudiodd Hanes a Llenyddiaeth yng Ngholeg Balliol, Rhydychen; Prifysgol Columbia, Efrog Newydd; a Phrifysgol Cymru, Abertawe.

Rhwng 1969 a 1993 bu’n dysgu Hanes ym mhrifysgolion Caerhirfryn, Abertawe a Chaerdydd. Ym 1986 dyfarnwyd Cadair Bersonol iddo gan Brifysgol Cymru.

Ym 1993 ymunodd â’r BBC fel Golygydd Radio Wales a rhwng 1994 a 2000  ef oedd Pennaeth Darlledu (Saesneg) BBC Cymru lle comisiynodd nifer o raglenni nodedig a llwyddiannus, yn enwedig ym myd y Celfyddydau a’r Ddrama. Yn ogystal â’i brofiad fel darlledwr, mae’r Athro Smith yn hanesydd adnabyddus ac yn awdur toreithiog ar y celfyddydau a materion diwylliannol.

Roedd yr Athro Smith yn Ddirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil ac Adfywio) ym Mhrifysgol Morgannwg o 2001 lle’r oedd ganddo gyfrifoldeb penodol am fentrau yn gysylltiedig â’r cyfraniad cymdeithasol, economaidd a diwylliannol roedd y Brifysgol yn ei wneud yn y gymuned.  Ym mis Mawrth 2005 gadawodd ei swydd i ddal Cadair Ymchwil yn Hanes Diwylliannol Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.

Cafodd ei lyfr diweddaraf In the Frame, Memory in Society Wales 1910-2010 ei gyhoeddi yn 2010.

Llun: Dai Smith

 

Rhannu |