Mwy o Newyddion
Ymgyrchwyr ifanc yn cyflwyno eu deiseb ‘Cyflog Byw’
Mae grŵp o ymgyrchwyr ifanc wedi cyflwyno eu deiseb gyda channoedd o lofnodion arni yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw’i haddewid maniffesto ar ‘Cyflog Byw’ i Gymru.
Mae’r criw, sydd rhwng 12 ac 16 oed wedi bod yn gweithio gydag elusen Achub y Plant ar yr ymgyrch ‘Camu Ymlaen: Cyflog Byw i Fyw Bywyd’ , oherwydd y nifer sylweddol o blant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru ond sydd hefyd â’u rhieni yn gweithio.
‘Cyflog Byw’ yw’r lleiafswm cyflog o £7.20 yr awr (£8.30 yn Llundain) y dylid ei dalu er mwyn sicrhau safon byw sy’n dderbyniol. Mae hynny yn cymharu gyda’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i oedolion sydd yn £6.08 yr awr. Fe’i gwelir fel ffordd o fynd i’r afael â thlodi ymysg pobl sydd eisoes mewn gwaith a hefyd i ddelio gyda safonau byw gwael. Gall hefyd arwain y ffordd tuag at welliannau cymdeithasol o ran iechyd, lles ac addysg unigolyn a hefyd rhoi hwb i’r economi mewn cyfnod o gyni.
Daw Courtney Moody, 13 oed o ardal Tremorfa yng Nghaerdydd. Yno, o ddydd i ddydd, gwêl rhieni ac oedolion yn gweithio oriau hir am ychydig o arian, a dal ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd.
Meddai: “Dw i wedi bod yn ymgyrchu dros Gyflog Byw oherwydd mae’n bwysig fod pobl yn gallu prynu dillad a bwyd a chael safon dda o fywyd. Byddai Cyflog Byw yn arbed pobl a phlant rhag gorfod byw mewn tlodi. Mae pawb wedi bod yn gefnogol iawn i’n hymgyrch ac wedi arwyddo ein deiseb.”
Croesawodd Achub y Plant y cyhoeddiad diweddar gan Y Gweinidog Dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Carl Sargeant y bydd yn dechrau Grŵp Polisi o randdeiliaid i archwilio cyflog byw i Gymru, a bod yr elusen wedi derbyn gwahoddiad i fod yn rhan o’r grŵp yma. Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd fod holl weithwyr sifil a’r rhai sy’n gweithio i GIG Cymru eisoes yn derbyn cyflog byw.
Meddai James Pritchard, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru: “Mae hyn yn anfon neges glir fod Llywodraeth Cymru yn credu bod hybu polisïau ar gyflog byw yn rhan bwysig o’r broses o fynd i’r afael â thlodi ac amodau byw gwael, sy’n cael effaith andwyol ar fywydau miloedd o blant yng Nghymru. Mae’n arwydd ein bod fel cenedl yn barod i droi ein cefnau ar gyflogau isel ac adeiladu cymdeithas sy’n gwerthfawrogi cyfraniad pob gweithiwr ac yn buddsoddi yn ein pobl.
“Mae ein hymgyrchwyr ifanc wedi dweud wrthym mai gwaith yw’r llwybr allan o dlodi i gymunedau, teuluoedd a’u plant. Eu disgwyliad yw os ydynt yn gweithio’n galed yn yr ysgol ac yn dod o hyd i swydd, yna y dylai’r swydd honno fod yn talu ‘Cyflog Byw’.
“Rydym felly yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Grŵp Polisi newydd yma i adeiladu Cymru na fydd yn derbyn dyfodol o galedi a phryder i’n pobl ifanc.”
Ychwanegodd Y Gweinidog Dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Carl Sargeant: "Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gefnogi staff sydd ar gyflogau isel oherwydd gwyddom y gall cyflog teg nid yn unig helpu i hybu pobl i fod yn gynhyrchiol ac i gael ymdeimlad gwell o’u gweithle, ond hefyd cefnogi gwell iechyd a safon bywyd teuluol. Rydym hefyd yn edrych tuag at fynd i’r afael gyda’r her yn ymwneud â thlodi o fewn gwaith.
“Rwyf wedi sefydlu'r Grwpiau Polisi fel y gall yr ystyriaethau o ran buddiannau cyflog byw gael eu trafod a’u hysgwyddo mewn dull cydweithredol.”
Llun: Ymgyrchwyr ifanc sy’n gweithio gydag Achub y Plant yn cyflwyno eu deiseb ‘Cyflog Byw’ i aelodau o Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol, Russell George AS, Bethan Jenkins AS a Williams Powell AS.