Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Mehefin 2012

Sialens Beicio Gwynedd a Môn

Mae paratoadau ar gyfer y Sialens beicio Gwynedd a Môn yn symud ymlaen yn dda. Gydag ychydig ddyddiau tan y gystadleuaeth beicio sydd wedi cael ei drefnu gan Gyngor Gwynedd, mae gweithluoedd a sefydliadau cymunedol ar draws Gwynedd a Môn wrthi yn cofrestru ac yn ysu i fynd.

Mae Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a'r Gwasanaeth Tân i gyd wedi cofrestru yn barod, ac mae disgwyl i dros 50 gweithleoedd a 800 o bobl leol gymryd rhan.

Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer y Sialens, mae digon o amser. Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw cofrestru am ddim ar y gwefan www.gwyneddmoncyclechallenge.org.uk. Mae cystadleuaeth yn agored i bawb sy'n byw neu'n gweithio yng Ngwynedd neu Fôn.

Bydd Sialens Beicio Gwynedd a Môn yn cael ei gynnal rhwng dydd Llun 2 a dydd Sul 22 Gorffennaf. Mae'n gystadleuaeth hwyliog, gyd gweithluoedd a sefydliadau cymunedol yn cystadlu i weld pwy all gael y canran mwyaf o'u staff i feicio. Mae taith o 10 munud yn gymwys ac mae llu o wobrau cyffrous i'w hennill, gan gynnwys beic newydd sbon.

Y syniad yw cael cymaint o bobl a phosib i feicio, ac mae’n bosib beicio ar unrhyw adeg a chofnodi eu taith ar wefan: www.gwyneddmoncyclechallenge.org.uk

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i: www.gwyneddmoncyclechallenge.org.uk

 

Rhannu |