Mwy o Newyddion
Gadael y gweithwyr ar ôl
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi dweud wrth gynhadledd o ymgyrchwyr undebau llafur o bob cwr o’r DG mai’r unig obaith realistig am agwedd sosialaidd at lywodraethu yw’r un yng Nghymru a’r Alban ac y dylai’r ddwy wlad fynd am fwy o annibyniaeth.
Wrth siarad mewn cyfarfod ymylol yng nghynhadledd UNSAIN yn Bournemouth,dywedodd Leanne wrth y cynrychiolwyr fod Plaid Cymru wedi ffafrio ‘dewis arall Cymreig unedig’ tuag at y mesurau llym, a’i bod yn bwriadu siarad mewn cynhadledd 'Compass Cymru' yn yr hydref, fydd â’r nod o ddwyn ynghyd undebau llafur ac elfennau blaengar eraill yng Nghymru. Dywedodd wrth y cyfarfod ei bod yn haws ffurfio cynghreiriau ac uno ar sail bod yn erbyn rhywbeth. Yr her fawr yw darganfod beth y gallwn uno o’i blaid.
Cafwyd ebychiadau amlwg o sioc pan hysbysodd Leanne y cyfarfod fod y Prif Weinidog Llafur yng Nghymru wedi galw am leoli arfau niwclear yng Nghymru os bydd yr Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth yn 2014.
Yn dilyn y digwyddiad, a noddwyd gan Unison United Left a’r Pwyllgor Cynrychioli Llafur, dywedodd arweinydd Plaid Leanne Wood AC:
“Roedd yn amlwg o’r cyfarfod fod llawer o ymgyrchwyr yn yr undebau o bob cwr o’r DG yn teimlo’n rhwystredig iawn – maent yn gwrthwynebu camau llym y ConDemiaid, ond heb allu gweld unrhyw ddewis arall – gallant weld fod y blaid Lafur oedd unwaith yn cynrychioli gwerthoedd sosialaidd wedi gadael y gweithwyr ar ôl.
“Yng Nghymru, lle mae gan Lafur y cyfle i wneud pethau yn wahanol, fe welwn lywodraeth a nodweddir gan ddiffyg gweithredu, tra bod yr economi a bywoliaeth pobl yn parhau i ddirywio. Boed yn fater o ddwyn arfau dinistr i Gymru, torri budd-dal treth cyngor i’r tlotaf, neu israddio ein hysbytai, mae Llafur yn dilyn llwybr sydd yn mynd yn groes i werthoedd y mwyafrif yng Nghymru.
“Fe allem ac fe ddylem ddewis llwybr gwleidyddol gwahanol yng Nghymru. Yn hytrach na chwyno am yr hyn sy’n cael ei osod ar Gymru gan San San Steffan, fe ddylai ein llywodraeth fod yn gwneud popeth yn ei gallu i fynnu’r pwerau fyddai’n ein galluogi i wneud pethau yn wahanol. Os nad yw ein llywodraeth yn abl neu’n barod i adeiladu’r achos dros i Gymru gael y pwerau allai amddiffyn pobl Cymru rhag effeithiau gwaethaf y mesurau llym hyn, yna bydd yn rhaid adeiladu mudiad o lawr gwlad, o’r gymuned, i gyflwyno’r achos hwnnw. Y gobaith yw y bydd cynhadledd Compass Cymru yn yr hydref yn gweld dechreuadau Cynllun B Cymreig a all roi gobaith i bobl fod dewis arall yn lle mwy o galedi trwy doriadau dyfnach fyth.”
Llun: Leanne Wood