Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Mehefin 2012

Cadarnhau honiadau Plaid Cymru

Dywedodd AC Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas fod adroddiad a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru gan yr Institute for Fiscal Studies (IFS) wedi cadarnhau honiadau Plaid Cymru fod Llafur wedi dewis pasio toriadau llywodraeth y DG yn llawn ymlaen at y sawl sy’n derbyn budd-dal treth cyngor, llawer ohonynt yn bensiynwyr.

Amlygodd  Mr Thomas hefyd wybodaeth yn yr adroddiad oedd yn dangos y bydd teuluoedd ar incwm isel yng Nghymru sydd yn derbyn help gyda’u biliau treth cyngor yn colli ar gyfartaledd £74 y flwyddyn. 

Meddai llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol,  Rhodri Glyn Thomas AC: “Mae adroddiad Llywodraeth Cymru ei hun, a luniwyd gan yr IFS uchel eu parch, yn dweud fod ‘Llywodraeth Cymru wedi dewis pasio’r toriad cyllid yn llawn ymlaen at y sawl sy’n hawlio budd-dal treth cyngor’.

"Mae graddfa ceisio delio â thoriadau’r Toriaid i faes lles yn enfawr, ond y gwir yw fod Llafur wedi dweud na fyddant yn rhoi’r un geiniog goch at liniaru’r baich pan ddaw’n fater o fudd-daliadau treth cyngor.

"Mae hyn ar waethaf y ffaith iddynt honni yn yr etholiadau diweddar y buasent yn sefyll cornel Cymru yn erbyn toriadau’r Toriaid. Mae pasio’r toriadau Toriaidd hyn ymlaen i rai o’r bobl dlotaf yng Nghymru, gan gynnwys pensiynwyr a gofalwyr, yn rhagrith pur gan Lafur.

“Mae Plaid Cymru eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn gweithredu i atal pobl rhag toriadau’r Toriaid, ond mae Llafur fel petaent yn hollol fodlon i eistedd yn ôl a chwyno amdanynt. Fel cam lleiaf, fe fuasem am weld llywodraeth Lafur yn gweithredu yn awr i amddiffyn grwpiau blaenoriaeth megis pensiynwyr.”

 

Rhannu |