Mwy o Newyddion
Angen am dryloywder Trident
Mae Jonathan Edwards AS Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i ryddhau manylion unrhyw drafodaethau maent wedi eu cael am leoliad arfau niwclear Trident ar ôl 2014.
Wrth fethu ateb y cwestiwn, gwnaeth Syr George Young, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, addewid y byddai’r Gweinidog Amddiffyn yn ysgrifennu at AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gydag ateb llawn i’w gwestiwn.
Mae’r cwestiwn yn dilyn cyhoeddiad gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ei fod yn ceisio dod a Trident o’i safle presennol yn Faslane, Yr Alban i Gymru.
Dywedodd Mr Edwards: “Rydym eisiau Cymru heb arfau niwclear.
“Nid oes gan Lafur unrhyw fandad i gynnig Cymru fel safle ar gyfer arfau niwclear marwol yn sgil annibyniaeth yr Alban.
“Y Blaid Lafur yn Llundain arweiniodd ni i ryfel dinistriol Irac dros arfau dinistriol torfol ond nawr mae’r Blaid Lafur yng Nghaerdydd eisiau rhoi arfau o’r fath mewn dyfroedd Cymreig.
“Y cwestiwn yw a ydynt wedi bod yn plotio’n gyfrinachol gyda’r Ceidwadwyr yn Llundain i ddod ag arfau i Gymru.
“Yn economaidd, mae Trident yn cynnig gwerth ariannol gwael gan y byddai buddsoddi mewn isadeiliedd yn creu llawer mwy a swyddi, ac ar sail egwyddor mae’n gwbl anfoesol cynnig cartref i arfau a all ladd miloedd os nad miliynau o bobl pe baent yn cael eu defnyddio.
“Rydym eisiau rhoi Cymru ar y map, nid ei ffrwydro oddi arno.
“Dyna pam nad fydd y fath beth a chroeso Cymreig i Trident.”
Llun: Jonathan Edwards