Mwy o Newyddion
Cogydd Ffrengig yn helpu i dynnu sylw at farchnad hanesyddol
Bydd prif gogydd Ffrengig yn dangos i filoedd o ymwelwyr â chanol y ddinas sut i ddefnyddio cynnyrch o farchnad dan do enwog Abertawe i greu pryd o fwyd gwych dros y penwythnos.
Bydd yn defnyddio cynnyrch ffres o Farchnad Abertawe ar gyfer ei arddangosiadau.
Mae ei ymddangosiad yn un o sawl gweithgaredd a drefnir gan Gyngor Abertawe i helpu i ddathlu ymgyrch o'r enw Dwlu ar eich Marchnad Leol. Mae hefyd yn rhan o Gynllun Gweithredu Canol y Ddinas, Cyngor Abertawe ar gyfer cynyddu nifer yr ymwelwyr a helpu masnachwyr yn ystod cyfnod economaidd anodd.
Bydd Diwrnod Cenedlaethol Marchnadoedd yn para rhwng 10am a 4pm ar hyd Stryd Rhydychena'r tu mewn i'r farchnad ei hun.
Bydd rhai masnachwyr y farchnad yn gosod eu stondinau ar Stryd Rhydychen ar y dydd i arddangos amrywiaeth o gynnyrch, gan gynnwys teisennau bach, ffrwythau a llysiau ffres, gemwaith, colur, bwydydd iechyd ac anrhegion wedi'u personoleiddio.
Bydd The Wave hefyd yn darlledu'n fyw ar y dydd.
Bydd hwyl y tu mewn i'r farchnad yn cynnwys sioeau hud gyda Jack Twist, y diddanwr plant, paentio wynebau, gweithdai crefft ac adloniant cerddorol gan Fand Tref Casllwchwr a Chôr Meibion Treforys.
Meddai'r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, "Marchnad Abertawe yw trysor canol y ddinas. Dyma'r farchnad fwyaf o'i bath yng Nghymru ac mae'n cyfuno dewis gwych o nwyddau a gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf.
"Bydd y digwyddiad hwn yn helpu i dynnu sylw at y farchnad y tu allan i'w muriau a gwella'i phroffil ar draws canol y ddinas a'r tu hwnt.
"Ond rydym yn gobeithio y bydd digwyddiadau o'r fath yn cael effaith gadarnhaol ledled canol y ddinas drwy ddenu ymwelwyr a chreu profiad a fydd yn annog siopwyr i ddychwelyd yn y dyfodol."
Caiff digwyddiadau eraill eu cyhoeddi fel rhan o'r ymgyrch Dwlu ar eich Marchnad Leol.
Ewch i http://www.swanseacitycentre.com am fwy o wybodaeth neu ffoniwch 01792 476370.