Mwy o Newyddion
Gŵyl o fewn gŵyl
Bydd amrywiaeth wych o gerddoriaeth a dawns gan berfformwyr lleol yn uchafbwynt i’r prynhawn olaf ar faes Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Am y tro cyntaf erioed bydd yr Ŵyl Ryngwladol yn arddangos doniau gorau’r Gogledd Ddwyrain mewn gŵyl o fewn gŵyl. Ymhlith eraill, bydd cyfle i weld;
-
Band Chwythbrennau Cymunedol Ysgol Dinas Brân – cynllun cymunedol sydd a 60 aelod rhwng 10-12+ oed, y mwyafrif o Ysgol Dinas Bran. Mae’r Band wedi ennill nifer o wobrau ac yn perfformio rhaglen amrywiol o Holst i Lady Gaga.
-
Subtheme- band egniol 5 aelod sy’n perfformio cyfuniad o Ffync, Disco a Dawns (House)
-
Out By Sunday – deuawd enillodd gystadleuaeth byscio Wrexham yn 2011, mae Out by Sunday yn perfformio’n wythnosol yng Ngwesty’r Frenhines yng Nghaer ac yn adnabyddus am eu perfformiadau cyson ar strydoedd y ddinas.
-
Harriet Earis – un o delynorion Celtaidd gorau Cymru. Mae hi wedi perfformio ar draws y byd gan deithio i America, yr Almaen, Canada, yr Iseldiroedd, Ffrainc, Gwlad Belg ac Iwerddon.
-
Future Perfect – deuawd gyffrous o Ogledd Cymru sy’n chwarae cerddoriaeth electroneg gan greu cerddoriaeth ddawns unigryw eu hunain.
-
Bethan Morgan – merch o Langollen sydd wedi denu cynulleidfa eang ers symud i Firmingham. Mae ei llais wedi cael ei gymharu a P.J. Harvey.
-
The New Foos – band 5 aelod o Ogledd Cymru sy’n efelychu caneuon Queen, Lady GaGa, 10.CC a Stereohonics.
-
Urban Fusion - grŵp o ddawnswyr stryd a hip hop o bob oed sydd wedi perfformio gydag enwogion fel Olly Murs o’r XFactor, Peter Andre, Akon, Dave Pierce y DJ a Tim Westwood.
-
Cwmni Opera Llangollen – Ffurfiwyd yn 2010, mae Cwmni Opera Llangollen yn cynnwys tua 15 aelod o berfformwyr profiadol sydd, ynghyd a’u Cyfarwyddwr Cerdd, Elen Mair Roberts, yn ceisio dod a blas theatrig i’r achlysur.
Dywedodd trefnydd LlanFEST Barrie Roberts: ”Mae cynrychiolwyr o bob cwr o’r byd yn dod i Langollen am wythnos pob blwyddyn i arddangos eu doniau creadigol. Sefydlu LlanFEST yw’r ffordd orau o roi blas i weddill y byd o’r talent lleol sydd gennym ni ei gynnig.
"Gyda phris mynediad ond yn £5, lluniaeth a dau Far, bydd ymwelwyr a maes Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ar y dydd Sul yn medru mwynhau amrywiaeth o fandiau, perfformwyr a dawnswyr mewn diweddglo addas i’r digwyddiadau dyddiol ar y maes.”