Mwy o Newyddion
Coron Eryri i Lŷn
Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri 2012 yw Anni Llŷn, Aelwyd Y Waun Ddyfal, Caerdydd. Merch ffarm o Sarn Mellteyrn ym Mhen Llŷn ydi Anni, 24, ac ar ôl graddio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd mae hi nawr yn cyflwyno Stwnsh ar S4C.
Meddai Anni: “Rydw i wedi cael addysg dda ar hyd fy oes ac wedi cael athrawon arbennig. Rhaid i mi ddiolch i bawb yn Ysgol Pont y Gôf, Ysgol Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor, ac wrth gwrs y staff yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd am eu gwaith a’u cefnogaeth.
"Mae ’na gariad at eiriau wedi bod yno erioed. Nes i ddim sylweddoli cymaint yr oeddwn i’n mwynhau creu llenyddiaeth, a chymaint yr oedd yn fy ysbrydoli nes i mi wneud modiwl Ysgrifennu Creadigol yn y Brifysgol. Cefais flas ar sgwennu a chefais fy synnu cymaint yr oedd rhywun yn gallu ei wneud gyda phinsiad o ddychymyg a llwyad go lew o greadigrwydd geiriol! Ers hynny, mae mynd ati i sgwennu yn gwneud i mi deimlo’n llawn ysbryd.”
Darn neu ddarnau dros 4,000 o eiriau ar y thema ‘Egin’ oedd meini prawf cystadleuaeth y Goron eleni. Y beirniaid oedd Catrin Dafydd a Meg Elis a meddent am waith Anni:
“Wrth ddarllen y tudalennau cyntaf teimlai’r ddwy ohonom ein bod mewn dwylo diogel. Dyma awdur sydd ar fwriad i’n tywys ni i fyd newydd, i realiti arall… Mae’r gwaith hwn yn gyforiog o liw a hiwmor ynghyd â chyfeiriadau cynnil at berthnasau’r cymeriadau â’i gilydd.”
Yn ail mae Elen Gwenllian Hughes, o Eifionydd, gyda Gwenno Elin Griffith, Aelwyd Gwrtheyrn Llŷn a Guto Dafydd o Lŷn yn gydradd drydydd.
Rhoddwyd y goron eleni gan Parc Cenedlaethol Eryri a noddwyd y seremoni pnawn yma gan HSBC.