Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mehefin 2012

Rhaid gwrando ar leisiau pobl hŷn

Wrth i Sarah Rochira ddechrau yn ei swydd fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, mae hi wedi dweud bod rhaid i ni nid yn unig wrando ar leisiau pobl hŷn ond hefyd bod rhaid defnyddio eu cyfoeth o wybodaeth a phrofiad er mwyn sicrhau bod ein cymunedau a’n gwasanaethau cyhoeddus yn diwallu anghenion poblogaeth sy’n mynd yn hŷn.

Un flaenoriaeth allweddol gan Ms Rochira fydd ymgysylltu â phobl hŷn yn eu cymunedau ar hyd a lled Cymru. Bydd yn teithio’n helaeth yn ystod ei hwythnos gyntaf yn y swydd, fel rhan o raglen barhaus o ymgysylltu, i gasglu safbwyntiau pobl hŷn ac i sicrhau bod eu llais hwy wrth galon ei gwaith.

Dywedodd Ms Rochira: “Fel Comisiynydd, rydw i’n bodoli er mwyn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau pobl hŷn yng Nghymru ac rwy’n teimlo’n angerddol dros gyflwyno newid cadarnhaol ar eu rhan. Byddaf yn gwneud yn siŵr bod ganddynt lais cryf a byddaf yn llafar wrth eirioli a hyrwyddo ar ran y rhai nad ydynt yn gallu siarad drostynt eu hunain.

“Rhaid dathlu ein bod ni'n byw yn hirach ac yn iachach. Mae llawer o bethau yng Nghymru y gallwn ni fod yn falch ohonynt, ac mae’n rhaid i ni ddangos y balchder hwnnw. Mae pobl hŷn yn gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i ni i gyd drwy eu gwaith cymunedol, drwy wirfoddoli ac yn eu rôl fel gofalwyr, mamau, tadau, teidiau a neiniau, ffrindiau a mentoriaid. Ond mae gormod o bobl hŷn yng Nghymru’n byw mewn tlodi, yn ynysig, gyda phroblemau iechyd ac yn profi gwahaniaethu, cam-drin a diffyg dewis a rheolaeth. Mae mynd i’r afael â’r materion hyn yn her i ni i gyd yng Nghymru.

“Rydw i’n disgwyl i bawb ym maes gwasanaethau cyhoeddus ar hyd a lled Cymru, pob un ohonom ni sy'n poeni ac yn gofalu am bobl hŷn, i wynebu pob her a chyflawni er budd pobl hŷn. Edrychaf ymlaen at weithio gydag eraill ar hyd a lled Cymru er mwyn eu helpu gyda’u gwaith a sicrhau ein bod ni'n gwneud cynnydd gyda rhoi sylw i'r materion hyn. Byddaf yn dal y rhai sy’n methu gwneud hynny yn gyfrifol.

“Mae Cymru wedi arwain y ffordd drwy sefydlu Comisiwn Pobl Hŷn cyntaf y byd, gan adlewyrchu ymrwymiad i wella bywydau pobl hŷn. Mae pobl hŷn yn un o’n hasedau gorau ni ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hwy ac ar eu rhan yn ystod y pedair blynedd nesaf, gan chwarae fy rhan mewn gwneud yn siŵr ein bod ni yma yng Nghymru nid yn unig yn gwarchod ac yn cefnogi’r rhai sydd fwyaf agored i niwed, ond ein bod ni hefyd yn gwneud Cymru yn lle gwych i dyfu'n hŷn ynddo i bawb."

 Llun: Sarah Rochira

 

Rhannu |