Mwy o Newyddion
20 mlynedd ers cyflwyno’r tlws cyntaf
Neithiwr, derbyniodd Marian a Bryn Tomos o Fangor Dlws John a Ceridwen Hughes ar lwyfan y pafiliwn gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Meriel Parry.
Mae’r tlws yn cael ei roi yn flynyddol i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru, ac eleni mae’n 20 mlynedd ers i’r tlws gael ei gyflwyno am y tro cyntaf. Dewi a Gerallt Hughes sydd yn rhoi’r tlws, er cof am eu rhieni, John a Ceridwen, oedd yn weithgar iawn yn maes ieuenctid.
Eglurodd Dewi Hughes pam eu bod yn teimlo fod angen tlws o’r fath, "Yr oeddem yn teimlo fod cenedlaethau o ieuenctid wedi’u breintio o gyfraniad ac arweiniad sylweddol gwirfoddolwyr teyrngar ac roeddem yn gofidio mai prin, efallai, y talwyd gwrogaeth haeddiannol a dyladwy iddynt. Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn gosod sylfaen ac esiampl arbennig i eraill eu dilyn ac yn cymell ein hieuenctid i werthfawrogi a mynegi eu hunain drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a'i diwylliant cyfoethog.
"Bu i Efa Gruffudd Jones sôn yn gynharach eleni am bwysigrwydd gwirfoddolwyr ym myd ieuenctid. Ategwn hynny gan obeithio fod y tlws hwn yn enw ein rhieni yn atgyfnerthu'r alwad ac yn tanlinellu pwysigrwydd arweinwyr heddiw i gynorthwyo ieuenctid i osod seiliau cadarn a chyfrannu i'w cyd-ddyn a'u cymuned fel ei gilydd."
Cafodd Bryn a Marian, sef enillwyr y tlws eleni, eu henwebu gan aelodau’r Urdd a rhieni’r ardal am eu gwaith yn cynnal Uwch Adran ac Aelwyd Bangor yn wythnosol ers 2004. Bellach mae dros 80 o blant yn mynychu’r Uwch Adran, a dros 35 yn aelodau yn yr Aelwyd.
Yn ôl Marian, “Mae’n andros o anrhydedd a dydy rhywun ddim yn gwneud y gwaith bob wythnos er mwyn derbyn diolch na chlod – rydyn ni’n ei wneud am ein bod yn mwynhau ei wneud o. Mae meddwl bod yr holl bobl 'ma wedi meddwl ein bod ni yn haeddu gwobr am y gwaith yn anhygoel. Dwi’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am ein henwebu ni ac am y pethau caredig maen nhw wedi ddweud. Mae’n cymryd amser i ddod i arfer ein bod wedi ennill!”
Ychwanegodd Gruff Pari sydd ym mlwyddyn 9 Ysgol Tryfan, ac yn un o selogion yr Uwch Adran: “Rwyf yn mynd i Uwch Adran Bangor bob nos Iau ac yn mwynhau cael cyfle i weld fy ffrindiau ar ôl ysgol mewn amgylchedd braf. Mae Bryn yn ddyn trefnus ac mae gwahanol weithgareddau difyr yn cael eu trefnu ar gyfer y nosweithiau gan gynnwys gemau, bandiau byw, siaradwyr gwadd a chwaraeon. Er bod nifer fawr o blant yn dod i’r uwch adran mae Bryn yn llwyddo i gadw trefn heb godi ei lais ormod! Dwi’n edrych ymlaen at nos Iau bob wythnos.”
Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Mae’r cyfraniad mae unigolion fel Bryn a Marian yn ei wneud yn amhrisiadwy, ac rydym yn hynod o ddiolchgar am eu gwaith diflino yn ardal Bangor. Maent yn cynnig cyfleoedd heb eu hail yn wythnosol i’r bobl ifanc, ac mae’r nifer sydd yn mynychu yn brawf o’r mwynhad mae’r plant yn ei gael. Mae’n briodol iawn bod cwpl o Eryri yn cael eu hanrhydeddu fel hyn yn eu milltir sgwâr eleni.”