Mwy o Newyddion
Sir Benfro yn estyn croeso cynnes i Eisteddfod yr Urdd 2013
Wedi wythnos llawn bwrlwm a hwyl ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri eleni, mae rhai o bobl ifanc Sir Benfro yn croesawu’r Eisteddfod i’w ardal prynhawn heddiw mewn sioe groeso frwdfrydig ar y llwyfan am 5:35pm sy’n rhoi blas i’r gynulleidfa o’r hyn fydd yn eu haros yn Sir Benfro'r flwyddyn nesaf. Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Benfro 2013 rhwng 27 Mai a 1 Mehefin 2013, ar gaeau Cilwendeg ger Boncath.
Arfordir Sir Benfro yw un o’r lleoedd mwyaf poblogaidd yng Nghymru, a bydd y criw ifanc yn ystod y sioe yn mynd â’r gynulleidfa ar daith o amgylch yr ardal gan rhoi blas iddynt ar fannau megis tref Dinbych y Pysgod, Castell Cenarth a pharc Oakwood.
Mae’r gwaith o godi arian drwy amryw o weithgareddau eisoes ar droed yn Sir Benfro gyda dros 60% o darged o £251,000 eisoes wedi ei gasglu. Cynhaliwyd gŵyl gyhoeddi arbennig yng nghanol tref Hwlffordd ym mis Mai ble bu cannoedd o blant, pobl ifanc, athrawon, rhieni a chefnogwyr yn cyd-gerdded trwy ganol y dref cyn ymgasglu am jamborî o ganu.
Dywed Emyr Phillips, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Benfro, “Mae pobl Sir Benfro yn edrych ymlaen at estyn croeso cynnes i’r Eisteddfod ac i Eisteddfodwyr o bob cwr o Gymru i’r ardal yn 2013. Wedi Gŵyl Gyhoeddi wych yn Hwlffordd ym mis Ebrill, mae brwdfrydedd pobl Sir Benfro yn amlwg, ac rydym yn edrych ymlaen at ddangos beth sydd gan y Sir i’w gynnig i Eisteddfod yr Urdd.
“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r holl wirfoddolwyr sy’n gweithio ar hyd a lled yr ardal yn cynnal gweithgareddau hwyliog i godi arian ar gyfer yr Eisteddfod. Mae gwaith caled o’n blaenau, ond mae yna griw gwych o wirfoddolwyr wedi bod yn cydweithio’n dda. Dwi’n ffyddiog bod pawb yn edrych ymlaen at flwyddyn o waith caled ar gyfer sicrhau gŵyl lwyddiannus a chyffrous yn 2013.”
Unwaith eto eleni, mae cwmni gwerthwyr ceir Gravells yn cefnogi Eisteddfod yr Urdd. Eleni mae Gravells ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn dathlu partneriaeth pum mlynedd. Mae’r bartneriaeth wedi sicrhau bod miloedd o blant a phobl ifanc wedi mwynhau llwyfan i ennyn sgiliau a chyfleoedd newydd. Drwy garedigrwydd a haelioni Gravells, car Kia Picanto fydd y wobr mewn raffl fawr i godi arian tuag at Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013, raffl cafodd ei lansio yn yr Ŵyl Gyhoeddi.
Meddai Jonathan Gravell: ‘’Rydym yn hynod falch o fedru cefnogi Eisteddfod yr Urdd 2013 ac yn bles iawn gyda’r bartneriaeth lwyddiannus rydym wedi sefydlu gyda’r mudiad dros y blynyddoedd. Hoffwn ddymuno’n dda iawn i Eisteddfod yr Urdd 2013 ac edrychwn ymlaen at gydweithio â’r Urdd dros y flwyddyn nesaf.’’
Dywed Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ‘‘Hoffwn ddiolch i Emyr Phillips a phawb ar y tîm am eu gwaith caled hyd yn hyn ac edrychwn ymlaen at flwyddyn o gydweithio brwd wrth i ni baratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, Sir Benfro 2013. Hoffwn hefyd diolch i Jonathan Gravell am y rhodd hael unwaith eto eleni. Y bwriad yw rhoi Eisteddfod 2013 yn Sir Benfro ar y map ac edrychwn ymlaen at Eisteddfod gofiadwy yn 2013.”