Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mehefin 2012

Sefydlu Ysgoloriaeth er cof am ŵr arbennig

Eleni am y tro cyntaf, bydd Ysgoloriaeth newydd yn cael ei sefydlu yn ystod Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012, Ysgoloriaeth Geraint George Urdd Gobaith Cymru.  Pwrpas yr ysgoloriaeth sy’n agored i unigolion rhwng 18 a 25 oed yw meithrin cyfathrebwyr arbennig all helpu pobl yng Nghymru a thu hwnt i werthfawrogi’r byd naturiol o’u cwmpas a deall y ffactorau sy’n effeithio arno. 

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth yn dilyn marwolaeth ddisymwth un o hoelion wyth maes amgylchedd Cymru, Geraint George.   Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n cyhoeddi’r ysgoloriaeth er cof am y gŵr hynaws, a oedd yn amgylcheddwr, addysgwr a chyfathrebwr brwd. Roedd Geraint George, 49, yn Gyfarwyddwr Rheolaeth Cefn Gwlad Prifysgol Bangor, yn aelod o’r Cyngor Cefn Gwlad, y Comisiwn Coedwigaeth ac yn Is Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymru. 

Wrth gyhoeddi’r Ysgoloriaeth heddiw ar faes prifwyl yr Urdd, dywedodd Morgan Parry, Cadeirydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru: “Roedd Geraint George wrth ei fodd yn gweithio gyda phobl ifanc, yn eu hannog nhw i holi a ffurfio barn am yr amgylchedd o’u cwmpas.  Roedd yn awyddus iawn i weld pobl yn trafod pynciau amgylcheddol ac yn ystyried Cymru a’i threftadaeth mewn cyd-destun rhyngwladol. Mae colled fawr o’i ôl, ond ein gobaith fel partneriaid yr Ysgoloriaeth yw y bydd enw Geraint George yn aros ar gof a chadw ac yn gymorth i bobl ifanc feithrin deallusrwydd ac arbenigedd pellach ym maes amgylcheddol Cymru.”

Yn wreiddiol o Abertawe, bu Geraint George yn byw yng ngogledd Cymru ers yr wythdegau ac roedd ganddo feddwl mawr o ardal Eryri.  Mae ei wraig, Ellen George, a’r merched yn falch iawn bod yr ysgoloriaeth yn cael ei lansio er cof am ŵr a thad annwyl iawn.

Yn ôl Caerwyn Roberts, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Fel cyn aelod o staff a chyn aelod o’r Awdurdod, fe greodd Geraint George argraff arbennig ar Barc Cenedlaethol Eryri. Roedd ysbrydoli plant a phobl ifanc i fwynhau ac i gymryd sylw o natur a’r byd amgylcheddol yn un o’i brif flaenoriaethau. Mae’r ysgoloriaeth hon yn fenter addas a phriodol iawn i adlewyrchu cyfraniad Geraint i’w faes.

I ymgeisio ar gyfer yr ysgoloriaeth, gwahoddir cystadleuwyr rhwng 18 a 25 oed i anfon gwaith cyfathrebu, mewn unrhyw gyfrwng, ar unrhyw bwnc amgylcheddol sy’n berthnasol i Gymru, at yr Urdd.  Bydd dau ddewis fel gwobr i’r enillydd.  Y cyntaf fydd mynd ar ymweliad wythnos â Pharc Cenedlaethol Trigav yn Slofenia lle bydd yn cael y cyfle i ddysgu am waith y Parc a chymryd rhan mewn gweithgareddau.  Yr ail ddewis fydd mynychu cynhadledd Ewroparc a gynhelir mewn gwahanol ran o Ewrop bob blwyddyn, lle bydd modd dysgu am waith sy’n digwydd mewn gwahanol wledydd a chael ymweld â safleoedd. 

Yn ychwanegol gall yr enillydd fanteisio ar gysylltiad gyda mentor ym Marc Cenedlaethol Eryri neu Gyngor Cefn Gwlad Cymru er mwyn helpu datblygu gyrfa ym maes yr amgylchedd. Bydd gwaith yr enillydd a thri chystadleuydd uchaf arall yr ysgoloriaeth yn cael eu harddangos ar wefan Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Gwahoddir gwaith ar ffurf unrhyw un, neu gyfuniad o’r canlynol:

  1. Ffilm fer [1-3 munud]

  2. Blog [wythnos fan lleiaf]

  3. Eitem sain [1-3 munud]

  4. Erthygl(au) [hyd at 3]

  5. Poster(i) [hyd at 3]

  6. Taflen (ni) [hyd at 3]

  7. Ysgrif(au) [hyd at 3]

  8. Stori/straeon [hyd at at 3]

  9. Cartwnau [hyd at 6]

  10. neu unrhyw gyfrwng/cyfryngau eraill o ddewis yr ymgeisydd.

 

Dylid anfon y gwaith, at yr Urdd erbyn 1af o Fawrth 2013 naill ai ar ffurf electroneg  neu gan anfon dau gopi caled o’r gwaith drwy’r post.  Mae manylion pellach ar gael ar wefan yr Urdd, www.urdd.org

 

Rhannu |