Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mehefin 2012

Cynghorwyr yn pleidleisio i beidio â hawlio rhai lwfansau teithio, ffôn a phost

Mae Cynghorwyr Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penderfynu na fyddant yn hawlio lwfansau teithio ar gyfer dyletswyddau etholaeth, nac yn hawlio ad-daliadau ar gyfer costau ffôn neu bost yn ymwneud â'u gwaith fel cynghorwyr.

Roedd yr aelodau i gyd o blaid y penderfyniad pan drafodwyd cyflogau a lwfansau aelodau yng Nghyfarfod Blynyddol gohiriedig y Cyngor ddydd Gwener 1af Mehefin.

Dywedodd Pam Palmer, a oedd wedi cynnig na ddylai'r aelodau hawlio'r fath lwfansau: “Rydym yn clywed drwy'r amser y bydd llai o fiwrocratiaeth. Felly rwy'n cynnig ein bod yn penderfynu peidio â hawlio lwfansau o'r fath."

Roedd y rhain yn ddau faes yng Nghynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig y gallai'r aelodau ymarfer eu disgresiwn yn eu cylch.

Mae'r holl lwfansau a chyflogau eraill bellach yn statudol yn sgil cael eu pennu gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Yn ystod y cyfarfod roedd sawl cynghorydd yn croesawu'r lwfans gofalwr statudol newydd, sy'n caniatáu i'r aelodau hawlio'n ôl rai costau lle maent yn gorfod trefnu i'w plant neu ddibynyddion eraill gael gofal er mwyn cyflawni dyletswyddau'r Cyngor.

Wrth ategu barn y lleill, dywedodd y Cynghorydd Kevin Madge, Arweinydd y Cyngor: “Os ydym am i bobl o bob cefndir ddod yn gynghorwyr mae'n rhaid inni eu helpu i fod yma a chyflawni eu dyletswyddau."

Mae fersiwn llawn o Gynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gael ar wefan y Cyngor - www.sirgar.gov.uk

 

Rhannu |