Mwy o Newyddion
Nodi 30 mlynedd ers Rhyfel y Falklands
Bydd David Melding AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cynrychioli Cymru yn Ynysoedd Falkland, i goffáu 30 mlynedd ers rhyddhau Port Stanley o oresgyniad yr Ariannin.
Gwahoddwyd Mr Melding i deithio 8,000 o filltiroedd i Dde’r Iwerydd gan Lywodraeth Ynysoedd Falkland.
Bydd yn cymryd rhan yn y dathliadau swyddogol yn Port Stanley ar 14 Mehefin, ond y peth cyntaf y bydd yn ei wneud ar ôl cyrraedd y Falklands ar 11 Mehefin fydd gosod torch ger cofgolofn y Gwarchodlu Cymreig yn Fitzroy.
Collodd 32 o aelodau’r Gwarchodlu Cymreig eu bywydau ar 8 Mehefin 1982, pan darodd taflegryn yr Ariannin gludwr milwyr y Sir Galahad.
Dywedodd Mr Melding, “Ym 1982, roeddwn yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ac rwy’n cofio’n glir yr effaith y cafodd y frwydr yn y Falklands arnaf i a’m cyd-fyfyrwyr. Hwnnw oedd y frwydr fawr gyntaf yr oedd Prydain wedi cymryd rhan ynddi yn ystod ein bywydau.”
“Cafodd effaith fawr arnaf i – wedi’r cyfan, roedd nifer o’r milwyr yr un oed â mi, ac yn fuan iawn cawsom wybod y byddai nifer ohonynt yn cael eu galw i wneud yr aberth eithaf er mwyn amddiffyn Ynysoedd Falkland.
“Roedd yr aberth hwnnw yn cynnwys y 32 o filwyr y Gwarchodlu Cymreig a gollodd eu bywydau yn Bluff Cove. Dyna pam mai’r peth cyntaf y byddaf yn ei wneud pan fyddaf yn gadael yr awyren yn y Falklands yw teithio i Fitzroy, sy’n edrych dros Bluff Cove, i osod torch ger y gofgolofn i’r aelodau hynny o’r Gwarchodlu Cymreig a gollodd eu bywydau ar y diwrnod brawychus hwnnw.
“Perodd Jwnta'r Ariannin i bobl yr Ariannin ddioddef trallod arswydus a byddai wedi gwneud yr un peth i bobl y Falklands.
“Tarodd y Tasglu Prydeinig ergyd parod a sylweddol dros ryddid a democratiaeth, ac ni ddylem fyth anghofio'r rhai a wnaeth yr aberth eithaf i warchod rhyddid.”
Llun: David Melding AC