Mwy o Newyddion
Alun Ffred Jones yn serennu fel gôl geidwad!
Pinacl gyrfa chwaraeon Alun Ffred Jones, y gwleidydd, oedd ennill Cwpan Pantyfedwen yr Urdd fel gôl geidwad tîm Aelwyd Llanuwchllyn gan guro Aelwyd Porthmadog! Dyma un o nifer o brofiadau y mae’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon yn dwyn i gof o’i gyfnod fel aelod o’r Urdd, ac yntau heddiw, ddydd Gwener 8 Mehefin 2012 yn dychwelyd at y mudiad fel Llywydd y Dydd ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri 2012.
“Mi gawson ni brofiadau anhygoel gyda’r mudiad,” eglura Alun Ffred Jones o Lanllyfni ger Caernarfon. “Bues i a’m brodyr yn aelodau o Aelwyd Llanuwchllyn yn cystadlu mewn partïon, corau cymysg a chorau meibion, gan ddod yn ail yn llawer rhy aml i Aelwyd Caerdydd gyda’r côr!” Ond er mai magwraeth ym Mhenllyn, Meirionnydd fu hanes y teulu, ym Mrynaman, sir Gaerfyrddin y ganwyd Alun Ffred, yr ieuengaf o bedwar mab i’r Parchedig Gerallt ac Elizabeth ‘Sis’ Jones.
Ond byd y ddrama aeth â bryd yr Alun Ffred ifanc, wrth gystadlu gyda’r Urdd mewn cystadlaethau drama. Curwyd Aelwyd Llanuwchllyn i’r brig yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaergybi ym 1966 gan Aelwyd Caerfyrddin, “a’r hen elyn, Sulwyn Thomas yn eu mysg!” meddai Alun Ffred Jones gyda gwên ar ei wyneb.
Wedi ei gyfnod yn Ysgol Syr O M Edwards, Llanuwchllyn ac Ysgol y Berwyn Y Bala, bu Alun Ffred yn aelod o Gymdeithas Ddrama Gymraeg Coleg Prifysgol Bangor pan oedd yno’n astudio’r Gymraeg. Bu dan gyfarwyddyd Dr John Gwilym Jones ac roedd yn rhannu fflat gyda’r actor amryddawn, John Pierce Jones: “dau ddylanwad mawr arnaf mewn gwahanol ffyrdd!” Yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn rheolwr dros dro ar dafarn enwog y Globe ym Mangor Uchaf!
Cyn troi at wleidyddiaeth, bu Alun Ffred Jones yn athro Cymraeg, am gyfnod yn Ysgol Uwchradd Glannau Dyfrdwy, “dylai pawb dreulio blwyddyn neu ddwy yn Queensferry,” yn ôl Alun Ffred. Yna bu’n Bennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Alun, Yr Wyddgrug ac yn ystod y cyfnod hwn, sefydlodd, gydag eraill, Gwmni Drama’r Dreflan a chyfarfod ei ddarpar wraig Alwen o Fryncoch, ger Castell Nedd. Bu hefyd yn gweithio ar gyrsiau iaith yng Ngwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn.
Ar ddechrau’r 80au ymunodd â HTV yng Nghaerdydd fel newyddiadurwr ar raglen ‘Y Dydd’ a chyflwynydd y rhaglen materion cyfoes ‘Yr Wythnos’. Pan briododd, symudodd ef a’i ddiweddar wraig yn ôl i’r gogledd a dyma ddechrau wedyn ar yrfa lwyddiannus gyda Ffilmiau’r Nant yng Nghaernarfon fel prentis gyfarwyddwr.
Yn ystod y cyfnod hwn yr ehangodd y teulu hefyd, wrth i Deio, Ifan a Gwenllian gyrraedd y byd. Bu Alun Ffred yn sgwennu a gweithio ar gyfresi teledu fel ‘Deryn’, ‘Anest’, ‘C’mon Midffild’ a ‘Phengelli’ a ffilmiau unigol fel ‘Cylch Gwaed’, ‘Plant y Tonnau’ ac ‘Oed yr Addewid’.
Yn ystod yr un cyfnod bu’n gynghorydd cymuned, cynghorydd dosbarth a sir dros Benygroes a phan grëwyd y Wynedd newydd yn 1996 cafodd ei ddewis yn Arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd. Ym 2003 ar ymddeoliad Dafydd Wigley etholwyd ef yn Aelod Cynulliad Caernarfon ac yna dros ardal Arfon yn 2007 a 2011. Pan ddaeth Llywodraeth Cymru’n Un bu’n Weinidog Treftadaeth a llywiodd Fesur yr Iaith Gymraeg trwy’r Cynulliad.
“Dylanwad mwyaf y mudiad arna i oedd cael dod i adnabod pobl ifanc eraill ledled Cymru,” meddai Alun Ffred. “Roedd cael dod i’r Eisteddfod yn goblyn o hwyl, roedden ni’n cael cyfle i gymdeithasu a hel merched!
“Mae hi’n anrhydedd fawr ac yn bleser pur cael bod yn Llywydd y Dydd heddiw. Dwi’n edrych ymlaen at gael darllen cyfansoddiadau’r Eisteddfod, gweld cynnyrch y gwaith celf a chrefft ac roedd gwylio’r sioe ieuenctid y noson o’r blaen yn werth chweil. Roedd mam wastad yn dweud bod safon uwch i enillwyr Steddfod yr Urdd na’r Steddfod Genedlaethol, ond pwy ydw i i basio barn? Mae hi’n wefr cael bod yma yng nghanol y bwrlwm a dwi’n mawr obeithio y caiff y plant a’r bobl ifanc fodd i fyw yma yn Eryri, yn union fel y cafodd fy mhlant ac fel y ces i flynyddoedd yn ôl.”