Mwy o Newyddion
Cwmni cyfathrebu’n ennill gwobr bennaf y DU
Mae'r cwmni cysylltiadau cyhoeddus Working Word, wedi cipio un o wobrau uchaf y DU am ei waith yn perswadio miloedd o bobl Cymru i osod eu hatgofion ar lein mewn ymgyrch i greu archif genedlaethol unigryw o fywyd pob dydd drwy’n cenedlaethau.
Enillodd ei ymgyrch, ‘Casgliad y Werin Cymru’ y wobr ‘Gorau yn y Sector Cyhoeddus' yng Ngwobrau Rhagoriaeth y DU, yn cael eu rhedeg gan Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR). Cafodd y wobr ei chyflwyno gan y cyn enillydd Olympaidd, Colin Jackson, mewn cinio mawreddog gyda bron i 800 o bobl broffesiynol o fyd cysylltiadau cyhoeddus yng Ngwesty’r Hilton, Park Lane, Llundain. Working Word oedd yr unig asiantaeth o Gymru i gael ei henwebu am wobr y DU.
Roedd Working Word yn rhedeg yr ymgyrch ar ran partneriaeth yn cynnwys Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae Casgliad y Werin Cymru’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Meddai beirniaid CIPR wrth grynhoi: “Roedd y gwaith yn dangos nid yn unig greadigrwydd hynod a dycnwch di-ben-draw ond hefyd y gallu i fywiogi’r hyn mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n ei gysylltu â llyfrau ac arddangosfeydd llychlyd. Drwy gael pobl Cymru yn graidd i’w hanes eu hunain, roedd yr ymgyrch yn ysbrydoli ac yn tanio brwdfrydedd y boblogaeth i werthfawrogi eu hanesion a’u profiadau eu hunain ac i gyflwyno ryseitiau, syniadau, atgofion, lluniau a chysylltiadau i genedlaethau’r dyfodol eu harchwilio ac i ddeall sut fywyd oedd gan eu cyndeidiau. Llwyddodd yr ymgyrch i wireddu ei amcanion ac i ddangos gwerth ardderchog am arian. Mae’n waith gwirioneddol ysbrydoledig ac yn rhywbeth y bydd yr asiantaeth, Llywodraeth Cymru a phobl Cymru yn ei werthfawrogi am flynyddoedd i ddod.
Meddai June Francois, pennaeth marchnata Amgueddfa Cymru: “Mae Working Word wedi rhedeg amrywiaeth ardderchog o ymgyrchoedd twymgalon a dychmygus yn y cyfryngau gyda hanesion a themâu pobl a chymeriadau go iawn i ennyn diddordeb y cyhoedd yng Nghymru. Bu'r ymgyrchoedd hyn yn llwyddiant mewn sawl ffordd, yn cynyddu traffig y we a nifer yr eitemau oedd yn cael eu lwytho i fyny ac yn cryfhau brand personoliaeth y wefan fel adnodd sy’n perthyn i’r bobl. Mae Working Word yn llwyddo i droi merched a dynion ar y stryd yn guraduron eu hamgueddfa eu hunain sy'n cyfrannu at archif genedlaethol o hanes byw.
Working Word, sy’n cyflogi tîm o 15 o bobl yn ei swyddfeydd yng nghanol Caerdydd, yw un o fusnesau cysylltiadau cyhoeddus a marchnata mwyaf Cymru. Mae’n rhedeg rhaglenni cyfathrebu i ugeiniau o gleientiaid cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector yng Nghymru a ledled y DU. Dyma'r ail dro i'r cwmni ennill Gwobr Ragoriaeth UK y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus.
Meddai rheolwr gyfarwyddwr Working Word, Eoghan Mortell: “Rydyn ni’n ddiolchgar i bartneriaeth Casgliad y Werin Cymru am y cyfle i weithio ar brosiect mor gyffrous yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac rwy’n hynod o falch o’r tîm sydd wedi rhedeg ymgyrch mor ardderchog. Mae’n dangos unwaith eto fod safon gwaith gwasanaethau proffesiynol yng Nghymru yn cymharu’n ffafriol iawn gyda gweddill y DU”.
Roedd ymgyrchoedd eraill ar restr fer y categori sector cyhoeddus yn cynnwys Together it is possible - Diwrnod Cancr y Byd 2012 gan Union for International Cancer Control (UICC) a Tonic Life Communications, Peace of mind at Christmas gan Gyngor Bwrdeistref Dacorum, A Whole New World at Your Library gan Gyngor Sir Caerhirfryn, Wythnos Waed Genedlaethol gan Trallwysiad a Gwaed y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Transplant and Right Thing, Right Bin gan Gyngor Stockport.
Llun: Chwith i’r Dde Noddwyr y wobr Stuart Ross o Transport for London, Dan Tyte, Bethan Davies a Sioned Horton-Evans o Working Word, June Francois o Amgueddfa Cymru, Aled Gamble o Working Word a meistr y seremoni, yr enillydd Olympaidd Colin Jackson.