Mwy o Newyddion
Miloedd yn cefnogi galwad WWF ar i Lywodraeth Cymru greu Parthau Cadwraeth Morol
Dywed WWF Cymru ei fod wedi’i ‘syfrdanu’ gan gefnogaeth y cyhoedd i’w ymgyrch i wella gwarchodaeth i fywyd gwyllt morol ger glannau Cymru, wrth i’r blaned dathlu World Oceans Day heddiw (Dydd Gwener 8 Mehefin).
Hyd yma mae mwy na 2600 o bobl wedi ymateb i alwad y corff cadwraethol ar i bobl ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gefnogi creu ‘Parthau Cadwraeth Morol’ gwarchodedig iawn, a fyddai’n rhoi terfyn ar niwed mewn nifer fach o ardaloedd dynodedig o gwmpas y glannau.
Mae’r Llywodraeth i fod i ddynodi 3 neu 4 safle erbyn gwanwyn 2014. Mae hyn yn golygu, am y tro cyntaf yng Nghymru, y byddai yna ardaloedd gwarchodedig lle na fydd gweithgareddau niweidiol yn cael eu caniatáu, fel y gall bywyd gwyllt ffynnu.
Meddai Dr Wendy Dodds, Uwch Swyddog Polisi Morol WWF Cymru: “Rydyn ni’n gwybod bod pobl yn gwerthfawrogi glannau Cymru a’r amrywiaeth doreithiog o fywyd gwyllt sydd gennyn ni yn nyfroedd Cymru, ond rydyn ni wedi cael ein syfrdanu gan faint yr ymateb. Mae’n wych bod cynifer o bobl wedi cymryd yr amser i ysgrifennu at y llywodraeth i gefnogi ein hymgyrch.”
“Gyda rhywogaethau fel dolffiniaid, morfilod a chrwbanod môr yn byw yn y dyfroedd o gwmpas Cymru, rydyn ni’n credu ei bod yn hanfodol dynodi rhai ardaloedd lle na all gweithgareddau niweidiol ddigwydd, er mwyn gwarchod cynefinoedd morol gwerthfawr.
“Mae’r lefel hon o gefnogaeth yn wych a bydd yn anfon neges glir i Lywodraeth Cymru bod y cyhoedd eisiau mwy o warchodaeth i’r bywyd gwyllt yn ein moroedd.”
Mae nifer o weithgareddau’n digwydd o gwmpas glannau Cymru, gan gynnwys pysgota, trafnidiaeth, hamdden a chynhyrchu ynni. Mae WWF Cymru eisiau gweld dull cydgysylltiedig o reoli ein moroedd, sy’n cefnogi bywoliaethau ochr yn ochr â chadwraeth. Mae’r sefydliad yn galw am:
· I Lywodraeth Cymru ddynodi’r safleoedd gorau’n Barthau Cadwraeth Morol newydd
· Rheoli, gorfodi a monitro priodol ar y safleoedd newydd hyn
· Rheoli da ar y safleoedd morol gwarchodedig sy’n bodoli eisoes
Gall pobl ymrwymo i ymgyrch WWF Cymru ar: www.wwf.org.uk/marineprotect