Mwy o Newyddion
Sicrhau dyfodol llwyddiannus i economi leol Gwynedd
Fel rhan o thema Cyngor Gwynedd ar gyfer wythnos Eisteddfod yr Urdd - iaith, gwaith a’r amgylchedd - daeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones i stondin y Cyngor ddoe i ymuno dathliad o’r ffaith fod dros 3,000 o bobl ifanc gogledd-orllewin Cymru bellach wedi derbyn cefnogaeth i ddatblygu sgiliau busnes fel rhan o gynllun Llwyddo’n Lleol.
Mae cynllun Llwyddo’n Lleol a sefydlwyd gan Gyngor Gwynedd ddeg mlynedd yn ôl wedi bod yn gonglfaen o ddatblygu'r economi yn y sir gan arfogi trigolion lleol gyda’r sgiliau i fentro yn eu cymunedau.
Bellach, mae’r cynllun wedi ei ehangu ar draws gogledd-orllewin Cymru, gan arfogi trigolion lleol gyda'r awydd a'r gallu i fentro gan gyfrannu at ffyniant cymunedau gwledig.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Dros y degawd diwethaf, mae prosiect arloesol Llwyddo’n Lleol wedi mynd o nerth i nerth ac mae’n wych ein bod wedi gallu dod ynghyd ar faes Eisteddfod yr Urdd i ddathlu llwyddiant ein pobl ifanc.
“Heb os, mae’r prosiect wedi profi i fod yn llwyddiant ysgubol ac yn esiampl wych o’r hyn y gellir ei wneud i hybu’r economi leol pan mae’r sector gyhoeddus a’r byd busnes yn gweithio gyda’i gilydd tuag at yr un nod.”
Ychwanegodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Arweinydd Portffolio Economi’r Cyngor: “Dros y blynyddoedd nesaf, bydd ffocws penodol yn cael ei roi ar y gwaith o annog busnesau newydd yn yr ardal i wneud y defnydd gorau posib o’r datblygiadau diweddaraf yn nhechnoleg y we.
“Yn hyn o beth, bydd plethiant amlwg rhwng Llwyddo’n Lleol a’r prosiect Gwynedd Ddigidol er mwyn galluogi ein busnesau a’n mentrau lleol i wneud y mwyaf o’r dechnoleg newydd.
“Ein nod drwy gynllun Gwynedd Ddigidol ydi datblygu'r defnydd o dechnoleg gwybodaeth yn y sir ac rydym yn gweithio’n galed gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau fod pawb yn gallu cael cysylltiad band eang teilwng er mwyn creu Gwynedd gyfan gwbl ddigidol.”
Llun: Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones; Dafydd Iwan, Cadeirydd PEG (Partneriaeth Economaidd Gwynedd); y Cynghorydd John Wynn Jones, Arweinydd Portffolio Economi’r Cyngor ac Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards yn dathlu cynllun Llwyddo’n Lleol