Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mehefin 2012

Siocled Coroni'r Frenhines heb ei gyffwrdd am bron 60 mlynedd

Mae tuniau siocled i goffáu Coroni'r Frenhines ym 1953 wedi cael eu darganfod, heb eu cyffwrdd, fwy na hanner canrif yn ddiweddarach.

Daeth staff Cyngor Abertawe yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg o hyd iddynt yn ystod dathliadau Jiwbilî Ddeimwnt y Frenhines, wrth agor ffeil yn y Ganolfan Ddinesig nad oedd neb wedi cyffwrdd â hi am bron 60 mlynedd.

Roedd y ffeil yn cynnwys dau dun arbennig o Cadbury's Dairy Milk i ddathlu'r coroni a llwy plât nicel i goffáu'r achlysur.

Mae'r tuniau'n las tywyll ac mewn cyflwr da. Ynghlwm wrthynt roedd slip yn nodi bod yr eitemau i goffáu coroni ei Mawrhydi Brenhines Elizabeth II ym mis Mehefin 1953.

Rhoddir y tuniau siocled a llwy'r Coroni i Amgueddfa Abertawe i'w cadw'n ddiogel.

Mae staff Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn cadw'r ffeil hanesyddol at ddiben ymchwil ychwanegol.

Meddai Kim Collis, Archifydd Sir Gorllewin Morgannwg, "Mae papurau yn y ffeil yn dangos bod Corfforaeth Abertawe wedi derbyn dyfynbris gan Messrs J.S. Fry and Sons, sef 10 swllt a phedwar ceiniog y dwsin, i gyflenwi tuniau siocled coffáu'r Coroni i'w dosbarthu i blant ysgol Abertawe, felly mae'n bosib mai samplau oedd y tuniau Cadbury's a anfonwyd mewn ymgais aflwyddiannus i ennill y contract.

"Mae'n ymddangos bod y siocled mewn cyflwr da ac mae'n dal i ogleuo fel siocled llaeth cyffredin, ond fyddwn i ddim yn argymell neb i'w fwyta ar ôl iddo gael ei storio am bron 60 mlynedd!

"Mae'r ffeil yn giplun diddorol o'r dathliadau yn Abertawe adeg y Coroni."

Ymhlith y dathliadau yn Abertawe ar gyfer Coroni'r Frenhines, cynhaliwyd Dawns Ddinesig y Coroni yn Neuadd Brangwyn o 8pm tan 1am ar 1 Mehefin 1953. Pris y tocynnau oedd 12 swllt a chwe cheiniog.

Cynhaliwyd Dawns Fawreddog gan gynnwys cystadleuaeth harddwch Miss Abertawe 1953, ym Mhafiliwn Patti'r un diwrnod.

Roedd uchafbwyntiau eraill yr wythnos yn cynnwys twrnamaint paffio ieuenctid amatur ym Mhafiliwn Patti a Chymanfa Ganu ar y cyd yn Neuadd Brangwyn.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/westglamorganarchives i gael mwy o wybodaeth am Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg neu ffoniwch 01792 636589.

 

Rhannu |