Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mehefin 2012

“Speaking Welsh? I'll arrest you” - Cymdeithas yn cyflwyno 'Llyfr Du' i Meri Huws

Bydd cannoedd o gwynion am ddiffyg gwasanaethau yn y Gymraeg yn cael eu cyflwyno i Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws ar faes yr Eisteddfod heddiw.

Argraffwyd rhestr o gwynion a’u cyhoeddi mewn dogfen o’r enw ‘Y Llyfr Du’ sydd gyda chwynion wedi eu hel at eu gilydd gan bobl ar hyd a lled Cymru. Casglwyd mwyafrif o’r  cwynion drwy’r we a chynllun cardiau post. Ceir amrywiad o gwynion e.e. o gwmni BT i broblemau gyda chofrestru priodas yn y Gymraeg. Gweler yn y llyfr, gwyn gan actifydd Iaith o Ferthyr Tudful, Jamie Bevan, a geisiodd siarad â heddwas yn Gymraeg, derbyniodd yr ymateb hwn “So you’re refusing to speak English are you?  Then, I’m arresting you for wasting police time”. Gwaeddodd aelod o staff siop ffonau symudol O2 ar Lewys Aaron “English” ar ôl iddo geisio dechrau sgwrs yn y Gymraeg.

Yn siarad cyn cyflwyno’r llyfr i Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws ar y cyd ac AS lleol Hywel Williams, Dr Jerry Hunter, Judith Humphreys, dywed Ceri Phillips llefarydd hawliau’r Mudiad: “Yr hyn a ddangosai’r llyfr hwn, ydy bod rhaid i agweddau sydd yn ymwneud â’r Iaith Gymraeg newid, a hynny yn gyflym os ydym eisiau i’r Iaith barhau.

"Does dim esgus ein bod ni fel pobl Cymru yn parhau i dderbyn rhagfarn o ddydd i ddydd am siarad Iaith ein mamwlad. Prif ddiben y Llyfr Du ydy i roi llais a llwyfan i bobl wneud eu profiadau yn gyhoeddus gan dynnu sylw at arferion gwael a’r anghyfiawnder a dderbynia pobl Cymru am geisio byw eu bywydau trwy’r cyfrwng Gymraeg.

"Bwriadwn gyhoeddi dogfen debyg yn flynyddol, gan gyhoeddi neges glir yn datgan y dylai’r Gymraeg fod yn bresennol a chanolog ymhob rhan o fywyd, nid rhywbeth atodol, ond ffordd o fyw

“Wrth draddodi darlith Tynged yr Iaith 2, sydd yn sail i'n hymgyrchu, fe wnaethom ddweud ein bod am weld y Gymraeg fel iaith fyw y gall unrhyw un ei defnyddio o ddydd i ddydd. Mae'r Llyfr Du yn dangos mor bell ohoni yr ydym mewn gwirionedd a chymaint sydd angen ei wneud eto, ceir dystiolaeth glir bod y Gymraeg yn parhau yn ymylol ymysg sefydliadau a chwmnïau.” 

Ychwanega Dr Jerry Hunter o Brifysgol Bangor: “Dwi’n gobeithio y bydd haneswyr y dyfodol yn ystyried y cyfnod hwn fel carreg filltir yn hanes yr Iaith Gymraeg. Wedi’r cwbl mae’r Mesur Iaith yn datgan bod gan y Gymraeg statws swyddogol ac mae’r Comisiynydd Iaith gyntaf wedi’i benodi.

"Ond er mwyn sicrhau bod y cyfnod newydd hwnnw yn gwawrio bydd yn rhaid i’r Comisiynydd, Meri Huws wireddu’r addewid a defnyddio’r pwerau sydd ganddi yn llawn er mwyn gweddnewid y sefyllfa.

"Mae’r Llyfr Du, Cymdeithas yr Iaith yn ein hatgoffa ni o’r ffaith bod llawer o Gyrff, sefydliadau a busnesau yn diystyru’r Gymraeg o hyd. Mae’n atgoffa’r Comisiynydd Iaith o’r her sy’n ei wynebu/

"Dwi’n dymuno’n dda i Meri Huws, Comisiynydd Iaith gyntaf Cymru, ac yn gobeithio y bydd hi’n gwireddu’r addewid. Dyma obeithio y bydd Cymry’r dyfodol yn ystyried problemau a’r anghyfiawnder a gofnodir yn y Llyfr Du fel rhywbeth sy’n perthyn i’w gorffennol nhw yn unig”

Mae'r mudiad yn bwriadu cyhoeddi Llyfr Du'n flynyddol ac yn annog unigolion i rannu eu sylwadau am wasanaethau Cymraeg ar blemaergymraeg.crowdmap.com.

 

Rhannu |