Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Mehefin 2012

Llafur yn gwrthod rhoi Senedd i Loegr gan fethu atev cwestiwn West Lothian

Mae arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd AS, wedi beirniadur araith yr arweinydd Llafur Ed Miliband ar Seisnigrwydd heddiw, gan ei galw’n ddifeddwl a di-sylwedd.

Dywedodd Mr Llwyd fod yr araith bolisi yn methu ateb cwestiynau sy’n delio gyda’r Cwestiwn West Lothian na safle cyfansoddiadol y DU yn y dyfodol.

Mae Mr Llwyd, sydd a’i blaid wedi amlinellu cynlluniau trylwyr mewn paratoad ar gyfer newid cyfansoddiadol, yn mynnu y bydd Lloegr yn parhau i lusgo y tu ol i bawb arall yn y ddadl os na fydd gwleidyddion unoliaethol yn dedchrau cynnig syniadau adeiladol yn hytrach na checru a chodi bwganod.

Dywedodd Mr Llwyd: "Mae Plaid Cymru wedi galw am bartneriaeth gytbwys, ond safbwynt Ed Miliband ar Loegr yw nad yw’n haeddu Senedd na Chynulliad ei hun.

“Nid yw ei araith heddiw ar Seisnigrwydd a’r cyfansoddiad yn cynnig dim atebion na syniadau newydd gan Lafur, sy’n medru gwneud dim on sylwadau di-sylwedd a difeddwl.

“Mae Plaid wedi mynnu erioed y byddai creu Senedd i Loegr yn helpu i ateb Cwestiwn West Lothian a thaclo diffyg democratiaeth y DU, ond mae’n debyg fod gwell gan y pleidiau unoliaethol edrych y ffordd arall ac anwybyddu’r sefyllfa na llunio cynlluniau adeiladol.

“Mae’n amlwg fod Llafur mewn llanast pan fo materion cyfansoddiadol yn y cwestiwn. Gwelwyd hyn yn ddiweddar pan mai Llafur oedd yr unig brif blaid i beidio cyflwyno tystiolaeth i ran gyntaf y Comisiwn Sidan sy’n edrych ar drefniadau cyllido Cymru.

“Dylai pobl o bob cornel y DU gael yr hawl i siapio eu dyfodol eu hunain a chael eu trin fel dinasyddion hafal. Tra fod hyn yn ffurfio credoau craidd Plaid Cymru a’r SNP, mae’n rhaid fod pobl Lloegr yn gobeithio am rywbeth gwell na geiriau gwag arweinydd Llafur.”

Llun: Elfyn Llwyd

 

Rhannu |