Mwy o Newyddion
‘Y Ddraig’ ar fin hedfan
Fe fydd cylchgrawn llenyddol newydd sydd wedi cael ei greu gan fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth fel rhan o fodiwl maent yn astudio, yn cael ei lansio ddydd Sadwrn (9 Mehefin) ar faes Eisteddfod yr Urdd.
Mae’r myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl ‘Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol’ wedi cael prosiect uchelgeisiol i’w gyflawni y tymor hwn, sef golygu a chyhoeddi rhifyn o gylchgrawn llenyddol Y Ddraig.
Bydd hwn yn rhifyn swmpus 117 tudalen a fydd yn cynnwys enghreifftiau o waith creadigol myfyrwyr o fwy nag un o adrannau’r Brifysgol. Bydd ynddo straeon byrion, cerddi, darnau o lên meicro, yn ogystal â chyfweliadau ag unigolion diddorol.
Caiff y cylchgrawn ei lansio ar stondin y Brifysgol ar faes yr Urdd yng Nglynllifon am 12 o’r gloch ar ddydd Sadwrn, 9 Mehefin. Bydd yn gyfle i roi sylw i waith to newydd o feirdd a llenorion ifainc sy’n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yr Athro Marged Haycock a Dr Bleddyn Huws sy’n cydlynu’r modiwl. Dywedodd Dr Huws, “Y myfyrwyr eu hunain a fu’n gyfrifol am gomisiynu cyfraniadau ar gyfer y cylchgrawn a nhw fu’n dethol darnau i’w cynnwys a’u golygu. Maent hefyd wedi comisiynu cynllun ar gyfer y clawr.
“Trwy gydweithio gyda’i gilydd fel tîm, maent wedi meithrin sgiliau pwysig sy’n rhoi cyfle iddynt gymhwyso’r hyn a glywsant mewn darlithoedd a seminarau at brosiect ymarferol a chreadigol fel hwn. Mae wastad angen golygyddion a newyddiadurwyr proffesiynol arnom a all wasanaethu’r wasg a’r byd cyhoeddi yng Nghymru, ac mae gennym yn yr Adran sawl egin newyddiadurwr ac egin olygydd a gafodd gyfle i feithrin ei sgiliau.”
Cynhelir y lansiad yng nghwmni Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd, sy’n un o gyn-fyfyrwyr yr Adran Gymraeg. Graddiodd Efa yn 1993 ac enillodd radd Meistr wedyn am draethawd ar agweddau ar y nofel Gymraeg yn Oes Victoria. Mae ei thad, Heini Gruffudd, a’i chwaer Nona hefyd yn gyn-fyfywryr o’r Adran Gymraeg.
Mae’r Adran yn falch iawn o’r cysylltiad agos sydd ganddi â mudiad yr Urdd gan ei fod yn un o’r sefydliadau sy’n derbyn myfyrwyr o’r Adran ar leoliad profiad gwaith. Mae sawl un o gyn-fyfyrwyr yr Adran sydd, fel Efa ei hun, bellach ar staff yr Urdd.
Gellir archebu copi o gylchgrawn Y Ddraig am £5 drwy gysylltu ag Adran y Gymraeg drwy e-bostio ar cymraeg@aber.ac.uk