Mwy o Newyddion
Noson Ddiabetes Canolbarth Cymru
Mae 3.8 miliwn o bobl yn byw gyda diabetes ar hyn o bryd yn y DU, a daroganir y bydd y nifer yma’n cynhyddu i 6.25 miliwn ac yn costio £16.9 biliwn i’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (17% o’i chyllideb flynyddol) erbyn y flwyddyn 2035.
Cynhelir noswaith ‘A Diabetes Information Evening’ gan yr Adran Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar y cyd â nifer o ddarparwyr iechyd ac elusennau lleol eraill.
Mae’r digwyddiad, a gynhelir am 7yh ar ddydd Mercher y 13eg o Fehefin, yn rhan o’r Wythnos Ddiabetes (12-16 o Fehefin) a’i bwriad yw codi ymwybyddiaeth o ddiabetes a darparu cefnogaeth ar gyfer y sawl sydd eisoes yn dioddef o’r afiechyd.
Mae mwy nag 160,000 o bobl yng Nghymru wedi derbyn diagnosis o ddiabetes, sef ymron i 5% o’r boblogaeth. Ar ben hynny, amcangyfrifir fod oddeutu 66,000 yn fwy o bobl sy’n dioddef o’r aflwydd on nad sydd eto wedi derbyn diagnosis.
Ni all cyrff dioddefwyr diabetes wneud defnydd effeithlon o’r glwcos sydd yn eu gwaed. Golyga hyn nad oes modd defnyddio’r glwcos yn effeithiol fel tannwydd, a chan hynny, erys lefelau uchel ar lwcos yn y gwaed.
Trinnir diabetes Math 1 gyda chwistrelliadau dyddiol o inswlin. Trinnir diabetes Math 2, y math sy’n cyfrif am rhwng oddeutu 85% a 95% o bob achos o ddiabetes, gan foddion a/neu inswlin. Mae’r driniaeth argymelliedig ar gyfer y ddau fath ar ddiabetes yn cynnwys diet gytbwys a gweithgaredd ffisegol cyson.
Dywedodd trefnydd y noswaith, Ffion Curtis, sy’n ymchwilio i mewn i effeithiau diffyg fitamin D ar ddiabetes: “Un o’r prif resymau sydd wrth wraidd y twf yn y nifer o achosion o ddiabetes yw’r newidiadau sydd yn ein ffyrdd o fyw.
Mae ein dietau wedi newid ac yr ydym yn gwneud llawer llai o weithgaredd ffisegol na’n cyndeidiau, gan dreulio mwy o amser yn eistedd yn ein ceir, ac o flaen sgriniau teledu. Yr ydym nawr hefyd yn gweld cynydd yn y nifer o blant sy’n datblygu diabetes math 2.
Heb driniaeth a rheolaeth gywir, gall diabetes arwain at nifer o gymlethdodau pellach, gan gynnwys afiechyd y galon a strôciau.
Fodd bynnag, medrwn wneud bychain i’n bywydau, ac i fywydau ein teuluoedd, all leihau’r perygl o ddatlbygu diabetes, a’n cynhorthwyo wrth reoli’r afiechyd.”
Mewn cydweithrediad â’r GIG, mae gan yr Adran Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer Corff nifer o wahanol astudiaethau ymchwil sy’n archwilio rhai o’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig â diabetes.
Mae’r noswaith hon yn gyfle i bobl a chanddynt ddiddordeb mewn ymchwil diabetes i gael cip o gwmpas labordai yr Adran.
Bydd cyfle i weld labordai arbennig yr adran. Yno i ateb cwestiynau fydd aelodau o’r tim ymchwil, yr arbenigwr diabetes o ysbyty Bronglais, aelodau o Grŵp Cefnogaeth Diabtes UK Machynlleth, a chynrychiolydd o Diabetes UK.
Estynnir croeso cynnes (a the a choffi) i bawb a garai fynychu i ddarganfod mwy am ddiabetes, ac ymchwil diabetes. Pe carech fynychu’r digwyddiad, neu pe carech fwy o wybodaeth am y digwyddiad, cysyllwch â Ffion Curtis ar y ffôn 01970 622070, neu ar yr ebost fic7@aber.ac.uk