Mwy o Newyddion
Cadeirydd newydd
Mae Cadeirydd newydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn edrych ymlaen at hybu bywyd cymunedol a gwaith gwirfoddol yn y sir dros y 12 mis nesaf.
Mae’r Cyng. Siân Thomas o Ben-y-groes wedi cychwyn ar garlam yn ystod ei blwyddyn fel Cadeirydd y Cyngor Sir.
Elusennau’r Cadeirydd am y flwyddyn yw offer arbenigol i Ysbyty Glanaman, y cartref pwrpasol i ddioddefwyr dementia yn Nyffryn Aman, a Chymdeithas Clefyd Siwgr Cwm Gwendraeth.
Mae’r Cyng. Thomas, sy’n byw yn Heol Maes y Bont, Castell y Rhingyll, Llanelli, gyda’i gŵr David, yn hanu o Ddyffryn Aman ond cafodd ei magu yn Ystradgynlais a Phontardawe yng Nghwm Tawe.
Roedd hi’n ddisgybl yn Ysgol Ynyscedwyn, Ysgol Gynradd Trebannws ac Ysgol Ramadeg Ystalyfera cyn mynd i Brifysgol Cymru Aberystwyth, lle enillodd radd BA mewn Addysg ac Athroniaeth. Hefyd mae ganddi radd M.Add. mewn Rheoli Perfformiad o Brifysgol Cymru Abertawe, gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn y Gymraeg o Brifysgol y Drindod Dewi Sant, Diploma mewn Cwnsela o Brifysgol Llanbedr Pont Steffan, a Diploma mewn Astudiaethau Busnes a Chyfrifiadureg o Goleg Tycoch Abertawe.
Mae’r Cyng. Siân Thomas wedi cynrychioli’r Cyngor Sir ar Gyrff Llywodraethol Ysgol Gynradd y Blaenau ac Ysgol Gynradd Pen-y-groes, ac mae hi’n un o ymddiriedolwyr Panel Buddsoddi Cronfa Bensiwn Dyfed.
Mae hi’n Ymddiriedolwr Menter Cwm Gwendraeth, yn Gadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas Cynghorwyr Plaid Cymru, yn olygydd ‘Cyngor’ – cylchgrawn i gynghorwyr Plaid Cymru, yn cynrychioli Cymru ar Gylch Barddol Olimpias yn UDA, ac yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe.
Yn y gorffennol bu’n aelod o Lys y Brifysgol, Is-gadeirydd Cenedlaethol Cyngor Iechyd Cymuned Cymru, Cadeirydd Pwyllgor Plaid Cymru ar gyfer Etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Cadeirydd Cenedlaethol Adran Darlithwyr UCAC, a Chadeirydd Grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor Sir.
Mae’r Cyng. Thomas yn gyn-athrawes, cyn-ddarlithydd Addysg Bellach ac Addysg Uwch, cyn-ddarlledwraig ar raglen Wedi Tri, cyn-weithiwr gwirfoddol gyda Chyngor ar Bopeth, a chyn-diwtor Cymraeg Ail Iaith a Llythrennedd i Oedolion.
Mae hi wedi cyhoeddi tri llyfr yn y Gymraeg yn ymwneud â chyfrifiadureg (Prosesu Geiriau, Cronfa Ddata, a Thaenlen). Hefyd mae hi wedi cyhoeddi straeon byrion a barddoniaeth mewn amryw o gyhoeddiadau, ynghyd ag erthyglau teithio mewn cylchgronau.
Mae hi’n gweithio dros Gymdeithas Clefyd Siwgr fel ymgyrchydd a darlithydd, yn ddarlithydd a siaradwr gwadd ar nifer o bynciau amrywiol i nifer o gyrff gwahanol, yn aelod o Gapel Pen-y-groes (Annibynwyr) ac yn ymarfer corff trwy nofio a garddio.
Dywedodd y Cyng. Thomas: “Rwy’ eisiau gweithio i godi proffil y sir o ran bywyd cymunedol a gwaith gwirfoddol ac i roi sylw i’r pethau da sy’n digwydd.
“Rwy’ wedi dewis tair elusen, yn gyntaf, offer arbenigol i Ysbyty Glanaman er cof am ddau annwyl ffrind a fu farw yno, sef Mrs Betty Edwards a wnaeth fy annog i sefyll fel Cynghorydd, a Dewi Enoch, cyn-gadeirydd y Cyngor, ac er mwyn diolch i’r ysbyty am ofalu cystal am fy mam a sawl modryb imi yn ystod eu salwch terfynol.
“Yn ail, y cartref pwrpasol i ddioddefwyr dementia yn Nyffryn Aman, er cof am fy ewythr Dafydd Davies, sefydlwr Cymdeithas Edward Llwyd (cymdeithas natur genedlaethol), a fu farw yno ryw ddeufis yn ôl, ac yn drydydd, fel un sy’n dioddef o’r clefyd, Cymdeithas Clefyd Siwgr Cwm Gwendraeth, er mwyn prynu offer arbenigol i adnabod a thrin y clefyd yn ein meddygfeydd.”
Y Cyng. Terry Davies, Gors-las, yw’r Is-gadeirydd newydd.
Aeth y Cyng. Davies i Ysgol Gynradd Gors-las ac Ysgol Ramadeg y Gwendraeth, ac mae ganddo HNC mewn peirianneg drydanol ac electronig (1969-71 Llanelli Tec). Hefyd enillodd HND mewn Gofal Cymdeithasol yn ystod cyfnod fel myfyriwr aeddfed yng Ngholeg Sir Gâr rhwng 1992 ac 1994.
Gweithiodd fel trydanwr i ‘Glo Prydain’ ym Mhwll Glo Cwmgwili o 1965 tan 1992, fel Rheolwr Datblygu Cymunedol gyda Menter Cwm Gwendraeth o 1995 tan 2002, ac fel Swyddog Datblygu Cymunedol gyda Menter Dyffryn Aman o 2002 tan 2005.
Bu’n weithgar ym maes yr undebau llafur fel Swyddog Cyfrinfa Undeb Cenedlaethol y Glowyr o 1972 tan 1992, fel Aelod Gweithredol o Undeb Cenedlaethol Glowyr De Cymru o 1990 tan 1992 ac fel Ysgrifennydd Aelodau Cyfyngedig (aelodau wedi ymddeol a gweddwon) o 1992 ymlaen.
Mae wedi bod yn Gynghorydd Cymuned ers 1977, yn Arweinydd Ieuenctid ers 1977, ac yn warden eglwys am dros 20 mlynedd. Yn ogystal, ar hyn o bryd mae’n Llywodraethwr yn Ysgol y Gwendraeth, yn Gadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Gors-las, ac yn Gadeirydd Cyngor Cymuned Gors-las.
Cafodd y Cyng. Davies ei urddo i’r Wisg Werdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2006 a derbyniodd yr MBE am wasanaeth i’r gymuned yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2008.
Llun: Cadeirydd newydd y Cyngor Sir y Cyng. Siân Thomas a’i chymar Mr David Thomas, ac yn y cefn yr Is-gadeirydd newydd y Cyng. Terry Davies a’i gydymaith Mrs Irene Jones.