Mwy o Newyddion
Prifardd Eisteddfod Eryri
Prifardd Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Eryri 2012 yw Gruffudd Antur o Aelwyd Penllyn.
Brodor o Lanuwchllyn yw Gruffudd, sydd newydd orffen ei ail flwyddyn yn astudio Ffiseg yn y Brifysgol. Derbyniodd ei addysg gynradd yn Ysgol O. M. Edwards, Llanuwchllyn, a’i addysg uwchradd yn Ysgol y Berwyn, Y Bala, lle bu’n brif fachgen.
Mae ei ddiddordebau yn cynnwys darllen, ysgrifennu a gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg. Mae’n ymrysona, yn talyrna ac yn stompio’n rheolaidd, yn aelod o dîm ymryson “Y Disgyblion Ysbas”, ac yn gyn-aelod o dîm talwrn Ysgol y Berwyn. Arferai chwarae’r trombôn i Seindorf Arian yr Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog, ac i Fand Pres a Symffonig Gwynedd a Môn.
Meddai Gruffudd: “Cefais fy ngwers gynganeddu gyntaf ym mlwyddyn 7 gan Huw Dylan Jones a phan oeddwn i yn y chweched dosbarth, ces i gyfres o wersi cynganeddu gan y Prifardd Elwyn Edwards, a dyna pryd y dechreuais fynd ati i gynganeddu o ddifrif. Mae fy nyled i 'Swêl' yn wirioneddol fawr. Roedd cael bardd a chynganeddwr cystal ag Arwel Emlyn Jones fel athro Mathemateg yn y chweched hefyd yn fodd i gadw’r arfau cynganeddol yn loyw.”
Cyhoeddir ei waith yn rheolaidd yn Barddas ac mae ganddo golofn fisol yn Y Glec.
Bu Gruffudd yn cystadlu yn rheolaidd yn yr Urdd ar hyd y blynyddoedd ar y cystadlaethau llwyfan a’r cystadlaethau gwaith cartref fel aelod o Adran Bentref Llanuwchllyn, Ysgol y Berwyn, Aelwyd Llanuwchllyn ac Aelwyd Penllyn, ac enillodd Dlws Gerallt Jones, Caerwedros ddwywaith. Dyma’r ail dro iddo gystadlu am y Gadair - daeth yn ail yn y gystadleuaeth yng Ngheredigion yn 2010.
Hon yw ei bedwaredd gadair eisteddfodol. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Ryng-golegol yng Nghaerdydd y llynedd ac ym Mangor eleni, ac enillodd Gadair Eisteddfod Llanuwchllyn yn 2011.
Steffan Gwyn, Ysgol Uwchradd Tryfan ddaeth yn ail a Catrin Haf Jones, Aelwyd Aeron, Ceredigion yn drydydd.
Rhoddir y gadair eleni gan deulu y diweddar Meirion a Ceredig Parry a noddwyd y seremoni gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans.