Mwy o Newyddion
Croesawu penderfyniad Scottish Power i ail-feddwl cynllun swyddi'r Gogledd
Mae cynrychiolwyr Plaid Cymru wedi croesawu penderfyniad Scottish Power i ail-feddwl cynllun i symud staff o ganolfan galw sy’n darparu gwasanaeth Cymreig yng Nghaernarfon i Wrecsam.
Mae Scottish Power wedi cyfaddef y gall staff Caernarfon wynebu problemau iechyd difrifol drwy’r teithio gormodol yn cynnwys pryder cynyddol, poen cefn cyson, a phroblemau difrifol eraill a all arwain at staff yn gorfod mynd i’r ysbyty.
Cafodd ymgyrch Plaid Cymru i gadw’r swyddi yng Nghaernarfon ei arwain gan Hywel Williams AS, Alun Ffred Jones AC, yr Arweinydd Cyngor, Dyfed Edwards, a Maer Caernarfon, Tudor Owen.
Wrth siarad ar ran yr ymgyrch, dywedodd Hywel Williams AS: “Rydym yn hynod o falch fod Scottish Power wedi derbyn pa mor afresymol fyddai’r trefniadau teithio pe bai staff yn cael eu symud o Gaernarfon i Wrecsam.
“Mae’n galonogol gweld fod y gweithwyr yn cael cynrychioliaeth dda a bod UNISON wedi llwyddo perswadio Scottish Power fod peryglon mawr ynghlwm â’r cynllun.
“Rydym yn edrych ymlaen at weld y cwmni, yr undeb a’r gweithwyr yn dod i gytundeb fydd yn diogelu’r swyddi yng Nghaernarfon, tra’n datblygu a gwella gwasanaethau cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.
“Mae’n braf gweld Scottish Power yn cadw meddwl agored ar y mater ac rydym yn bwriadu parhau i gefnogi’r gweithwyr i sicrhau y bydd y gwasanaeth hollbwysig hwn yn cael ei ddiogelu.”
Llun: Hywel Williams