Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Mai 2012

Plaid Cymru yn condemnio methiant Llywodraeth y DG i gynnig mesurau o ddifrif am swyddi

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo llywodraeth ConDemiaid y DG o fethu bod yn effro i faint yr argyfwng economaidd. Dadleuodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC, nad oedd araith y Frenhines yn cynnwys unrhyw fesurau am swyddi. Aeth Leanne Wood yn ei blaen i ddweud fod blaenoriaethau pobl Cymru – swyddi, cyflogau a safonau byw – yn cael eu hanwybyddu gan Lywodraeth y DG.

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru fod Araith Arall y Frenhines gan ei phlaid hi yn amlinellu cyfres o gynigion fyddai’n rhoi sbardun i economi Cymru, megis mesurau i drydaneiddio rhwydwaith reilffyrdd Cymru, rheolaeth lawn dros ein hadnoddau ynni ein hunain ac i Ganolfannau Gwaith a Mwy gael eu rhoi dan reolaeth Llywodraeth Cymru, fel sydd wedi digwydd yng Ngogledd Iwerddon.

Meddai arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood AC: “Mae’n anhygoel, ar waethaf y dirwasgiad dwbl, ar waethaf diweithdra cyson uchel, ar waetha’r ffaith fod biliau pobl yn cynyddu a phecynnau cyflog yn gostwng, methodd Llywodraeth y DG a chynnig unrhyw fesurau o ddifrif i greu swyddi.

“Mae angen i Lywodraeth y DG ddeffro i sylweddoli maint yr argyfwng hwn. Yn ystod yr adegau economaidd anodd hyn, blaenoriaethau pobl Cymru yw swyddi, cyflogau a’u safonau byw – these priorities are being totally ignored by the Llywodraeth y DG.

“Yr oedd rhaglen ddeddfwriaethol wahanol Plaid Cymru ar gyfer y DG yn amlinellu cyfres o gynigion fyddai yn rhoi sbardun i economi Cymru. Rydym eisiau gweld trydaneiddio rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a buddsoddi economaidd ledled y genedl. Rydym hefyd wedi galw am reolaeth lawn dros ein hadnoddau ynni a dŵr ein hunain fel y gall Cymru harneisio potensial llawn yr economi werdd.

“Mae’r biliau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DG yn methu a chydnabod anghenion economi Cymru. Mae economi Cymru angen meddyginiaeth wahanol a mwy grymus na’r hyn sydd ei angen i economi Llundain a’r cyffiniau. Mae Plaid Cymru yn galw am hybu o ddifrif a hwb hefyd i ochr alw yr economi. Mae cynlluniau Llywodraeth y DG wedi siomi Cymru.”

Rhannu |