Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Mai 2012

Ymgyrch yn erbyn Tesco

 

“Llanrwst! Ydach chi eisiau gweld mwy o siopau gwag ? Llai o swyddi? Llai o leoedd parcio ? A chanolfan wastraff fawr ar gyrion y dref? Yna ymunwch gyda ni i ddweud NA wrth Tesco !”

 

Dyna’r gri gan Grŵp Ymgyrch Llanrwst sydd newydd ei sefydlu yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus gynhaliwyd i drafod y datblygiad arfaethedig o siop Tesco ym Mhlas yn Dre (tu cefn i Heol yr Orsaf) ac hefyd symud y ganolfan wastraff o Blas yn Dre i safle ar y ffordd i mewn i’r dref ar ffordd Betws. Byddai’r datblygiad hefyd yn golygu dymchwel y Llyfrgell bresennol, Gorsaf yr Heddlu a’r orsaf ambiwlans ac adeiladu rhai newydd ar safle arall er mwyn gwneud lle i ddigon o leoedd parcio i Tesco a Glasdir ym Mhlas yn Dre.

Yn y cyfarfod cyhoeddus cyntaf roedd cefnogaeth gryf i wrthwynebu yr holl ddatblygiad. Roedd arweinyddion y Cyngor Sir yn gwadu fod unrhyw gais cynllunio na chyn-gynllunio wedi ei dderbyn ac y byddent yn ymgynghori yn llawn pan fyddai hyn yn digwydd. Fodd bynnag mae’r Grŵp Ymgyrch yn teimlo na fydd hyn yn ddigonol ac y byddai yn rhy hwyr yn y dydd ac maent yn amheus iawn fod trafodaethau eisoes wedi eu cynnal a’r ddêl wedi ei selio.

Arweinir y Grŵp Ymgyrch gan bobl busnes lleol sy’n bryderus am eu busnesau ond yn fwy na hynny yn bryderus am ddyfodol Llanrwst fel tref farchnad fyw a bywiog. Maent hefyd yn bryderus am oblygiadau amgylcheddol y datblygiad ym Mhlas yn Dre ac ar ffordd Betws lle mae’r safle wedi bod yn un lle mae’r afon yn gorlifo.

Dywedodd Cadeirydd y Grŵp, Dwynwen Berry o siop Bys a Bawd: “Da ni ddim am adael i hyn ddigwydd. ‘Da ni ddim isio canolfan gyfnewid gwastraff ddrewllyd, llychlyd a swnllyd yn difetha’r ffordd i mewn i’r dref nac archfarchnad fawr yn lladd canol y dref a difetha popeth sy’n gwneud y dref yn unigryw.“

Mae Deiniol ap Dafydd o Blas ar Fwyd yn cyflenwi siopau eraill ar hyd a lled Cymru . Dywedodd ef fod llawer o’i gwsmeriaid wedi dioddef pan agorwyd archfarchnad Tesco yn eu trefi hwy - yn Rhuthun, Llandrindod, Y Trallwng a’r Drenewydd. Dywedodd un siopwr yn Rhuthun.

“Roedd agor siop Tesco wedi gwneud mwy o niwed i’r dref na ‘r clwy traed a genau, y dirwasgiad na gwaith ffyrdd," meddai.

Dywedodd Clare Morton o’r Siop Iechyd fod dau adroddiad diweddar y “New Economics Foundation” - 'Ghost Town Britain' yn sôn fod mwy na 13,000 o siopau arbenigol gan gynnwys cigyddion, siopau bara, gwerthwyr pysgod a siopau papurau newydd wedi cau rhwng 1997 a 2002, gan adael cymunedau heb siopau annibynnol na’r gwasanaethau yr oeddent yn eu cynnig.

Dywedodd Shirley Longley: “Mae’n wybyddus fod gan Tesco bolisi o beidio prynu nwyddau gan gyflenwyr lleol ac maent yn fwriadol tanbrisio er mwyn rhoi siopau bach lleol allan o fusnes. Mewn tref farchnad fel Llanrwst does dim ond rhaid i siop golli cyfran fechan o’i busnes i’w gwneud yn amhosib i gadw i fynd."

Ychwanegodd Justin McIlveen, perchennog a rheolwr siop Spar Llanrwst: “Mae ein cyfanwerthwr, A.F.Blakemore & Son Ltd, sy’n cyflenwi dros 1,000 o siopau Spar yn ogystal â rhedeg tua 600 o’u siopau eu hunain wedi bod yn edrych ar y symiau. Yn ôl y dystiolaeth sydd ganddyn nhw, pan fydd Tesco o’r maint fyddai hon yn Llanrwst yn agor ei drysau mewn tref lle mae siop Spar eisoes yn bodoli, gall y Spar ddisgwyl gweld gostyngiad mewn busnes o rhwng 30% a 40%. Petaem ni yn colli 30% o’n trosiant yna fyddem ni ddim yn gallu gwneud elw digonol i gadw’n agored a byddai rhaid cau."

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno gyda’r grwp neu eisiau mwy o wybodaeth cysylltwch gyda Rosie Evans ar mevans403@btinternet.com.

 

 

Rhannu |