Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Mai 2012

Pontio yn lansio prosiect HaDASyniaDA yn Eisteddfod yr Urdd

Mae Pontio, canolfan newydd y celfyddydau perfformio ac arloesi ym Mangor, yn dathlu’r daith tuag at agor yn 2014 gyda prosiect unigryw ar gyfer plant ysgol Bangor.

Bydd HaDASyniaDA yn gyfle i bobl ifanc adael eu hetifeddiaeth greadigol ar Pontio cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau. 

Bydd dau o feirdd amlwg Cymru yn gweithio gyda Pontio ar y prosiect – y Prifardd, Tudur Dylan, a’r bardd a’r newyddiadurwraig lleol o Ddyffryn Nantlle, Karen Owen.

Bydd y beirdd yn ysbrydoli plant i ddatblygu eu ‘hadau syniadau’ ar gyfer y ganolfan newydd – a’u mynegi drwy gerddi. Caiff y HaDASyniaDA wedyn eu plannu ar y safle gan y plant.

Cynhelir y prosiect hwn ar y cyd gyda Llenyddiaeth Cymru a Gwyddoniaeth Gynaliadwy. Lansir y prosiect yn Eisteddfod yr Urdd eleni ym mhabell Prifysgol Bangor. Cynhelir Eisteddfod yr Urdd eleni ar dir Glynllifon, Caernarfon.

Meddai Cyfarwyddwr Artistig newydd Pontio, Elen ap Robert: “Yn 2014, bydd canolfan Pontio yn agor ei drysau am y tro cyntaf. Ar hyn o bryd mae’r safle adeiladu’n dawel, ond cyn i’r craeniau a’r jac codi baw gymryd drosodd, mae Pontio am redeg prosiect arbennig gydag ysgolion Bangor gan ganolbwyntio ar y safle ei hun drwy alluogi plant a phobol ifanc Bangor i gymryd perchnogaeth o’r safle – HaDASyniaDA.

“Mae’n bleser gennym wahodd dau fardd amlwg i weithio gyda ni ar y prosiect – ill dau gyda chysylltiadau agos a Bangor.

“Trwy gyfrwng gweithdai hwyliog mewn ysgolion cynradd ym Mangor drwy fis Mehefin, bydd ein beirdd yn ysbrydoli plant i fynegi eu hunain drwy greu eu ‘HaDASyniaDA’ barddol eu hunain ar gyfer y Ganolfan newydd. Bydd y cerddi’n dathlu gweithgarwch artistig y dyfodol yn Pontio.

“Ar ôl eu creu, caiff yr ‘hadasyniada’ wedyn eu plannu ar y safle gan y plant. Bydd yr hadau syniadau’n tyfu ac yn datblygu gyda’r adeiladu, fel petai, o’r ddaear oddi tannodd.

“Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at gryfhau ein cysylltiadau gydag ysgolion Bangor a rhannu’r daith gyffrous a chreadigol gyda’n gilydd.”

Ychwanegodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae HaDAsyniaDA yn esiampl wych o weithgaredd dyfeisgar yn gweithio ar lefel gymunedol fydd yn creu gwaddol creadigol gwerthfawr. Mi fydd yn gosod barddoniaeth yn rhan o seiliau’r adeilad newydd cyffrous hwn.  Mae Llenyddiaeth Cymru yn hynod o falch o gefnogi prosiect Pontio ac yn edrych ymlaen at gael cydweithio dros y blynyddoedd sydd i ddod.”

Ychwanegodd Gwyn Tudur, Prifathro Ysgol Tryfan: “Rydym fel ysgol yn falch iawn i fod yn rhan o brosiect cyfranogol Pontio fydd yn sicrhau bod llais creadigol pobl ifanc Tryfan yn cael ei glywed a pherchnogaeth dros y Ganolfan yn cael ei sefydlu o'r cychwyn cyntaf.”

 

Rhannu |