Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Mai 2012

Ailadrodd galwad am fuddsoddiad isadeiledd wrth i'r dirwasgiad ddirywio

Mae Plaid Cymru wedi ailadrodd galwad am fuddsoddiad mewn isadeiledd yn dilyn cyhoeddi ffigyrau newydd sy’n dangos fod y sector adeiladu wedi perfformio’n waeth na’r disgwyl ar ddechrau 2012.

Cafodd ffigyrau GDP y chwarter cyntaf eu hadolygu i lawr i -0.3% sy’n awgrymu fod y dirwasgiad yn ddyfnach na dybiwyd yn wreiddiol.

Dywedodd Jonathan Edwards, llefarydd y Trysorlys, fod angen pecyn symbyliad economaidd ar gyfer swyddi a thwf er mwyn atal y dirwasgiad dwbl rhag gwaethygu.

Galwodd hefyd am gyflwyno treth trafodion ariannol ble y gellir defnyddio’r arian a godir i gryfhau’r economi, a ffigwr GDP Cymreig i ddangos sut mae Cymru’n perfformio drwy gydol y cyfnod economaidd anodd hwn.

Dywedodd Jonathan Edwards AS Plaid Cymru: “Mae ffigyrau GDP dirywol heddiw unwaith eto’n dangos fod ‘Cynllun A’ y Toriaid a’r Rhyddfrydwyr wedi methu.

“Rhaid i Osborne a Cameron ailfeddwl a sicrhau mai twf a swyddi yw’r flaenoriaeth o hyn allan.

“Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio o’r dechrau fod y diwydiant adeiladu yn rhan allweddol o’r adfywiad economaidd.

“Dyna pam ein bod wedi galw’n gyson am becyn symbyliad economaidd i fuddsoddi mewn prosiectau isadeiledd megis ysgolion, ysbytai, tai, ffyrdd a rheilffyrdd.

“Un ffordd y gellir ariannu hyn yw drwy gyflwyno treth trafodion ariannol ar fanciau, ond yn anffodus mae t?m-tag Llafur a’r Toriaid yn Llundain, Caerdydd a Brwsel yn gwrthwynebu hyn.

“Mae hefyd yn drueni nad oes ffigyrau GDP ar gyfer Cymru i roi gwell syniad i ni o sut mae’r economi Gymreig yn perfformio yn ystod y cyfnod dirwasgiad dwbl anodd hwn gan na all ffigyrau’r DU roi’r darlun cyflawn i ni.”

Llun: Jonathan Edwards

 

Rhannu |