Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Mai 2012

400 o blant yn dod â hanesion Eryri yn fyw ar lwyfan yr Eisteddfod

Bydd 400 o blant ysgolion cynradd ardal Eryri yn cael gwefr ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri 2012 wrth berfformio’r sioe gynradd nos Fawrth a nos Fercher 5 a 6 o Fehefin 2012. ‘Ar Gof a Chadw’ yw enw’r sioe sydd wedi ei sgwennu ar y cyd rhwng Nia a Medwen Plas, Rhian Parry a’r cyfarwyddwr Ken Hughes. Mae’r sioe wreiddiol yn tynnu ar hanes a phrif ddigwyddiadau pum cwmwd yn Eryri, sef Dyffryn Ogwen, Arfon, Dyffryn Nantlle, Eifionydd a Llŷn.

“Mae’r syniad gwreiddiol am y sioe yn dod o ddarluniau sydd gen i o ardal Eryri sy’n croniclo digwyddiadau pwysig yn fy hanes,” eglura Cyfarwyddwr y Sioe, Ken Hughes, o Bentrefelin, Criccieth. “Rydyn ni wedi llwyddo i greu pum golygfa ar gyfer y bum ardal, gan blethu hanes, llên gwerin a thraddodiadau’r ardaloedd hynny i mewn i’r stori. Y llinyn cyswllt o fewn y sioe yw’r gŵr camera sy’n tynnu lluniau o’r golygfeydd er mwyn iddynt fod ar gof a chadw.

“Mi gawn ni hanes a thraddodiad y chwareli yn Nyffryn Ogwen; hwyl a miri’r Castell yn Arfon; hud y dyffryn a hanes Blodeuwedd yng ngolygfa Dyffryn Nantlle; darluniau o hen longau, yr hufenfa a Mart Bryncir yn Eifionydd a glan y moroedd godidog yn Llŷn. Gan bod cymaint o blant mor awyddus i fod yn rhan o’r sioe, yn ymarferol, mae creu golygfeydd penodol i ardaloedd penodol yn ei gwneud hi’n llawer haws wrth ymarfer a chyfarwyddo,” eglura Ken.

Mae plant a’r cysyniad bod gan bob un plentyn rywbeth i’w gynnig yn rhywbeth y mae Ken wedi cadw’n driw iddo ar hyd y blynyddoedd. Nid yw bod ymysg plant yn brofiad newydd iddo, gan ei fod newydd ymddeol o fyd addysg wedi 42 o flynyddoedd. Bu’n brifathro am 31 o flynyddoedd, yn bennaeth yn Ysgol Talysarn ger Caernarfon am rhai blynyddoedd ac wedi hynny yn Brifathro yn Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog am dros 20 mlynedd.

“Ces dipyn o fraw o ddeall bod cymaint o ddisgyblion mor awyddus i fod yn rhan o’r sioe,” eglura Ken, “ond mae gweld cymaint ohonynt yn dod ynghyd ac yn mwynhau’r profiad a’r cyfle yn werth chweil i ni fel criw.”

Rhys Glyn, sydd wedi cyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer y sioe ‘Ar Gof a Chadw’ ac mae Pat Jones yn arwain y plant yn yr ymarferion cerddorol. Bydd digon o ganu, dawnsio, actio a pherfformio o fewn y Sioe, ac mae tîm pellach o athrawon yn tiwtora a bugeilio yn ystod yr ymarferion wythnosol. Yn eu mysg, y mae Huw Edward Jones o Ysgol Llanllechid a Ceri Wyn o Ysgol yr Hendre, y ddau yn chwarae rhan flaenllaw yn cynorthwyo Ken gyda’r gwaith cynhyrchu. Edward Elias fydd yn gyfrifol am y llwyfannu.

“Rydyn ni’n teithio o un pen y sir i’r llall, o Aberdaron i Gaernarfon ac o Fro Lleu i Edern. Ac mae hi’n wefr cael bod ymysg y plant a chael cymaint o frwdfrydedd ar gyfer y Sioe. Rydyn ni’n cael gweld ardaloedd gwahanol o Eryri, ac mae fy niolch i i’r tîm yn enfawr,” meddai Ken. “Mae llawer o bobl yn buddsoddi amser ac egni i’r gwaith, ac rydyn ni mor falch o gael bod yn rhan o gynhyrchiad bythgofiadwy ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.”

Bydd digon o amrywiaeth yn y sioe o ganu gan unigolion, i grwpiau’n cerdd dantio. Bydd ymgom a deialog, cerddoriaeth opera a darlleniadau. Bydd dawns, symud a choreograffi hefyd yn y perfformiadau terfynol. “Roedden ni’n awyddus i gael pob math o wahanol gyfryngau yn y sioe, i hybu amrywiaeth a chynnig profiadau gwahanol i’r plant,” eglura Ken.

Yn ôl Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: “Mae ymroddiad Ken a’r tîm i’r gwaith o siapio a mowldio’r plant cynradd yma ledled Eryri ar gyfer y sioe yn wych. Bydd y gynulleidfa, boed yn rhieni, neiniau, teidiau, ffrindiau ac eisteddfodwyr yn sicr o gael gwledd. Rydym yn ymfalchïo yng ngwaith ein tiwtoriaid a’n hathrawon wrth roi ein perfformwyr ifanc ar ben ffordd. Ond yn fwy na hynny, mae’r profiad a’r cyfleoedd mae’r plant yma’n eu cael trwy’r Urdd yn sicr o aros gyda nhw weddill eu hoes. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at wylio’r cyfan ar y llwyfan!”

Am docynnau i’r Sioe gynradd ‘Ar Gof a Chadw’ sydd ar werth am £15 a £12, ewch i wefan yr Urdd, www.ordd.org/eisteddfod neu galwch 0845 257 1639. Bydd y perfformiadau i’w gweld yn y Pafiliwn ar y Maes nos Fawrth a nos Fercher 5 a 6 o Fehefin 2012 am 8 o’r gloch.

Cynhelir yr Eisteddfod eleni ar dir Coleg Meirion Dwyfor yng Nglynllifon (Ffordd Clynnog, Glynllifon) ger Caernarfon, Gwynedd o’r 4 i’r 9 o Fehefin 2012.

 

Rhannu |