Mwy o Newyddion
Nid yw Cronfa Cyffuriau Canser yn iawn i Gymru
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio’i gwariant ar driniaethau canser – £4.50 y pen yn fwy nag yn Lloegr – ar ddiagnosis cynnar, a sicrhau bod modd cael gafael ar gyffuriau canser mewn ffordd sy’n gyson ac yn seiliedig ar dystiolaeth, meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd heddiw ddoe.
Wrth siarad yn y gynhadledd a drefnwyd i nodi dengmlwyddiant y Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG), dywedodd y Gweinidog na fyddai cael Cronfa Cyffuriau Canser i Gymru y peth gorau i’w wneud.
Dywedodd Lesley Griffiths: “Rwy’n teimlo’n gryf na fyddai cael Cronfa Cyffuriau Canser er lles pobl Cymru. Mae gennym ni fecanweithiau cadarn eisoes er mwyn sicrhau bod cysondeb o ran gallu cleifion i gael gafael, mewn amgylchiadau eithriadol, ar feddyginiaethau sydd heb gael eu cymeradwyo.
“Does dim consensws ymhlith uwch glinigwyr yng Nghymru na Lloegr y byddai Cronfa Cyffuriau Canser yn gweithio. Mae llawer o’r farn fod hynny’n gweithredu mewn modd annheg, ac yn cymryd arian oddi wrth wasanaethau ac afiechydon eraill sydd yr un mor haeddiannol.
“Does dim tystiolaeth fod Cronfa Cyffuriau Canser yn gwella ansawdd bywyd na chyfraddau goroesi. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod cysylltiad agosach rhwng goroesi a diagnosis cynnar, a bod llawdriniaethau a radiotherapi yn fwy tebygol o ddylanwadu ar oroesiad, ac mai ar y materion yma y dylen ni ganolbwyntio.
“Rydyn ni’n credu y byddai’n creu anghydraddoldebau annerbyniol yn ein system iechyd, ac yn tanseilio gwaith hanfodol y Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan sy’n rhoi cyngor ynglŷn â thriniaethau newydd yn seiliedig ar dystiolaeth.
“Am y rhesymau hyn, rwy’n meddwl mai’r cwestiwn i’w ofyn yw pam y byddai Llywodraeth Cymru yn creu Cronfa Cyffuriau Canser, pan fo popeth yn dweud wrthym mai’r ffordd gyfrifol ymlaen yw’r dull yn seiliedig ar dystiolaeth, sef yr un yr ydyn ni’n ei ddilyn.”