Mwy o Newyddion


Mae'n rhaid i ffermwyr ifanc gamblo
MAE’N rhaid i bobl ifanc gymryd gambl os ydyn nhw am aros yng nghefn gwlad a pharhau i weithio yn y diwydiant amaeth, yn ôl ffermwr llaeth 30 oed sy’n bwriadu agor parlwr godro ar gyfer mil o wartheg ym Mhowys.
Mae “gambl” Fraser Jones yn ei ddyfodol yn werth bron i bedair miliwn o bunnau, ond mae hefyd yn gynllun dadleuol.
Mae Cyngor Sir Powys yn dweud eu bod wedi derbyn “nifer fawr” o lythyrau gan y cyhoedd ynglŷn â’r cais cynllunio ar gyfer fferm Lower Leighton yn Nhre’r Llai ger Y Trallwng – nifer sylweddol uwch nag y maen nhw wedi ei dderbyn yn ymwneud ag unrhyw gais arall “ers blynyddoedd”.
Ond dydi Fraser Jones ddim yn deall y ffws. Er mwyn iddo ef a’i deulu allu aros yn yr ardal, ac er mwyn iddo allu gwneud busnes o gynhyrchu llefrith yn y wasgfa y mae archfarchnadoedd wedi ei rhoi ar ffermydd bychain, mae’n rhaid datblygu’r fferm, meddai. Ac mae ei sefyllfa o yn adlewyrchu’r hyn sy’n wir am ffermwyr llaeth ar draws Cymru a gwledydd Prydain.
I ddarllen gweddill y stori CLICIWCH YMA