Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Mai 2012

Agoriad swyddogol adeilad newydd £9.3 miliwn Ysgol yr Hendre

Mae’r Ysgol yr Hendre newydd gwerth £9.3 miliwn yng Nghaernarfon wedi cael ei hagor yn swyddogol gan y Prif Weinidog Carwyn Jones a Chadeirydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Selwyn Griffiths.

Ysgol yr Hendre, sy’n darparu lleoedd i hyd at 450 o blant – ydi un o’r ysgolion gwyrddaf yn y wlad. Bydd yr ysgol gynradd newydd yn cynnig amgylchedd addysgol o’r radd flaenaf i ddisgyblion yng Nghaernarfon yn ogystal ag adnodd gwych i’r gymuned leol.

Wrth siarad yn yr agoriad swyddogol, meddai’r Prif Weinidog: “Mae’n bleser gwirioneddol gen i fod yma heddiw i agor yn swyddogol Ysgol yr Hendre a gweld ffrwyth £4.3 miliwn o arian cyfalaf.

“Mae’r cyfleusterau yma’n rhagorol ac mae’r disgyblion a’r gymuned yn elwa ar yr hyn sydd ar gael yma. Mae’n enghraifft o sut mae buddsoddiad cyfalaf yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae’n ysgol sy’n rhan allweddol o’r gymuned ac mae’r ffaith y bydd hi’n cael ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol yn atgyfnerthu hynny. Mae’r Ysgol yr Hendre newydd yn dangos y budd o fuddsoddi yn ein hysgolion.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Mae sicrhau bod holl blant a phobl ifanc Gwynedd yn cael y cychwyn gorau mewn bywyd yn flaenoriaeth allweddol inni fel Cyngor. Mae Ysgol yr Hendre yn enghraifft wych o ymdrech ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru, yr ysgol ei hun, ei llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn cyflawni’r amcan yma.

“Mae adeiladu’r ysgol newydd wych yma hefyd wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu’r economi leol ac rydym wedi gweithio’n agos gyda’r prif gontractwyr, Cwmni Wynne i sicrhau fod y prosiect yn sicrhau buddion i’r gymuned leol.

“Roedden ni wedi’i gwneud hi’n glir o’r cychwyn fod manteisio i’r eithaf ar yr economi leol yn hanfodol bwysig a chynhaliwyd dyddiau cyflogaeth a recriwtio yng Nghaernarfon yn ogystal â digwyddiadau i greu cyswllt rhwng y prif gontractwr a chyflenwyr yn yr ardal. Fel Cyngor, rydym yn falch iawn fod nifer o bobl leol wedi elwa o’r gwaith adeiladu ar y prosiect uchelgeisiol yma.”

Cafodd dros 90% o’r gwaith adeiladu ar y prosiect ei wneud gan weithwyr o Ardal gogledd Cymru. Hefyd, cafodd 79% o’r gyllideb ei wario ar gwmnïau yng Nghymru, gyda 92% o’r ffigwr hwn - neu £4.5 miliwn - wedi ei wario gyda chwmnïau bach a chanolig yng Nghymru.

Ychwanegodd y Cynghorydd Roy Owen, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol yr Hendre: “Mae Ysgol newydd yr Hendre’n ysgol y gall pawb o’r disgyblion, staff a’r gymuned ehangach fod yn wirioneddol falch ohoni ac rydan ni wrth ein bodd o weld yr ysgol yn agor yn swyddogol.

“Mae’r ysgol newydd yn llawer mwy nag ysgol ac mae’r ffaith ei bod hi hefyd yn cynnwys cyfleusterau sy’n darparu addysg oedolion, mentrau iechyd a lles cymdeithasol yn ogystal â gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon yn golygu y bydd hi’n galon i’r gymuned leol.”

Mae cynllun arloesol yr ysgol newydd yn rhoi teimlad o ehangder i’r adeilad gan fanteisio i’r eithaf ar olau naturiol drwyddo. O ganlyniad mae ynddi amgylchedd dysgu a gweithio sydd gyda’r gorau yng Nghymru.

Yn ogystal â rhoi i ddisgyblion a’u hathrawon yr amgylchedd dysgu a gweithio y maen nhw’n ei haeddu, bydd yr ysgol newydd yn derbyn dyfarniad safon rhagorol BREEAM, sy’n golygu ei bod hi’n un o’r ysgolion gwyrddaf yn y wlad.

Mae’r dulliau adeiladu a ddefnyddiwyd yn golygu bod yr adeilad yn aros yn gynnes yn y gaeaf ac yn glaear yn yr haf, gan leihau costau gwresogi. Mae hyn yn arwain at leihad o 60% mewn allyriadau carbon yn ystod oes yr adeilad, ac mae’r gallu i ailgylchu dŵr glaw ymysg ei lu o fanteision.

 

Rhannu |