Mwy o Newyddion
Hywel Dda yn ennill Gwobr Arian am fod yn Wyrdd
Mae ymrwymiad Bwrdd Iechyd Hywel Dda i gynllunio teithio cynaliadwy wedi cael ei gydnabod, wrth iddo ennill Gwobr Arian yng Ngwobrau Cynllunio Teithio Cymru Consortiwm Teithio Integredig De Orllewin Cymru (‘SWWITCH’) 2012.
Mae Gwobrau Cynllunio Teithio Cymru SWWITCH yn cydnabod rhagoriaeth mewn Cynllunio Teithio ledled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Rhoddir gwobrau i unigolion neu grwpiau o fusnesau, sefydliadau, ysgolion neu grwpiau cymunedol.
Mae Cynllun Teithio Hywel Dda yn ffordd i’r Bwrdd Iechyd geisio gwella opsiynau teithio gweithwyr, cleifion ac ymwelwyr. Y prif nod yw ‘cynyddu opsiynau teithio cynaliadwy i staff, cleifion ac ymwelwyr’ gan roi pwyslais ar leihau achosion o ddibynnu ar un unigolyn yn teithio mewn car.
Cafodd y Cynllun ei ddatblygu gan Grwp Llywio Teithio Cynaliadwy yn dilyn canlyniadau archwiliadau ac arolygon sydd wedi’u cynnal yn y pedwar prif ysbyty yn ardal Hywel Dda, sef Ysbyty Tywysog Philip, Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Ysbyty Cyffredinol Bronglais ac Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.
Mae’r wobr Arian yn dathlu ymrwymiad parhaus y sefydliad i deithio cynaliadwy a’i lwyddiannau ers cynhyrchu’r cynllun teithio cychwynnol, ac mae’n brawf o’i ymrwymiad i wella opsiynau teithio a chludiant ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Phil Jones, Swyddog Cydgysylltu Teithio Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Ers ennill gwobr Efydd yn 2010 mae’r Bwrdd Iechyd yn falch iawn o gyrraedd safon gwobr Arian gan SWWITCH.
“Mae Grwp Llywio Teithio Cynaliadwy’r Bwrdd Iechyd wedi parhau i gydweithio’n agos ag asiantau allanol, gan roi prawf o ymrwymiad parhaus y Bwrdd Iechyd i hyrwyddo teithio cynaliadwy drwy leihau teithiau mewn car a hyrwyddo beicio a cherdded sy’n ein galluogi i leihau ein hôl-troed carbon a rhyddhau arbedion ariannol.”
Dywedodd Jayne Cornelius, Cydgysylltydd Cynllunio Teithio SWWITCH: “Mae’n fraint i ni roi Gwobr Cynllun Teithio Cymru lefel Arian i Hywel Dda. Mae’n un o ddeg sefydliad llwyddiannus sydd wedi derbyn y wobr yn y seremoni ym Mhencadlys Heddlu Dyfed Powys.
“Hoffem ganmol Hywel Dda am eu gwaith caled wrth sicrhau llwyddiant parhaus ei gynllun teithio wrth annog ffyrdd cynaliadwy o deithio. Maen nhw wedi sefydlu dulliau o gynorthwyo’r cynllun teithio ar ffurf hyrwyddwyr teithio, sydd wedi cael hyfforddiant ‘Smart Travel’ SWWITCH, er mwyn gwella sgiliau ymhlith staff adrannau, yn ogystal â gweithwyr cwrdd a chyfarch. Erbyn hyn mae’r hyrwyddwyr yn gallu rhoi gwybod i’w cydweithwyr, eu cleifion a’u hymwelwyr am y dewisiadau teithio cynaliadwy sydd ar gael ar y safleoedd ysbyty amrywiol. Edrychwn ymlaen at gydweithio â Hywel Dda i’w helpu i gyrraedd lefel Aur.”
Yng Nghynllun Teithio Hywel Dda ceir set o fesurau sy’n gwella dewisiadau teithio ac sy’n cynnwys mentrau amrywiol ar gyfer llwyddo gan gynnwys rhannu ceir, hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus, beicio, cerdded a ffyrdd amgen o weithio. Rhennir hyn gyda holl staff y Bwrdd Iechyd ar dudalen we bwrpasol a chyda’r cyhoedd drwy hyrwyddwyr teithio cymwys.