Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Mai 2012

Rheolwr yr Elyrch yn canmol ymdrechion i gynyddu proffil Abertawe

Mae Brendan Rogers, rheolwr yr Elyrch, yn dweud bod y byd i gyd wedi cymryd at y ddinas oherwydd y tymor cyntaf anhygoel yn yr Uwch-gynghrair.

Mae proffil amlycach y ddinas ar draws y DU ac o gwmpas y byd wedi golygu bod busnesau lleol wedi elwa wrth i'r Elyrch frwydro o wythnos i wythnos yn erbyn timau megis Manchester United, Arsenal a Chelsea.

Ac mae rheolwr y clwb, sy'n defnyddio atyniadau'r ddinas fel pwynt gwerthu allweddol i berswadio chwaraewyr newydd i ymuno â'r tîm, yn dweud bod y ffactor boddhaus hwn i'w deimlo ar draws Abertawe.

Meddai: "Mae wedi bod yn dymor gwych gyda phroffil Abertawe fel tîm pêl-droed ac fel dinas wedi codi ar draws y byd i gyd. Mae Bae Abertawe'n rhan hardd iawn o'r DU ac rwy'n siwr y bydd y ddinas a'i phobl wedi creu argraff gyntaf arbennig ar gefnogwyr sy'n ymweld.

"Dwi'n synnu dim bod y byd pêl-droed wedi cymryd at y tîm a'r ddinas."

Mae Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ac wedi defnyddio gemau gartref allweddol megis gêm mis Tachwedd diwethaf yn erbyn Manchester United a chystadleuaeth y penwythnos yma yn erbyn Lerpwl i farchnata Cymru ac Abertawe i gynulleidfa fusnes y DU.

Mae mwy na 580 miliwn o gefnogwyr pêl-droed mewn 211 o wledydd wedi gweld Eisteddle Croeso Stadiwm Liberty sydd wedi rhoi cyfle iddynt wybod mwy am Gymru ac Abertawe drwy fynd i wefan dewchifaeabertawe.com.

Ar ben hynny, mae gweithredwyr twristiaeth, gan gynnwys gwestai a busnesau eraill, wedi profi manteision economaidd ymdrechion Cyngor Abertawe a'i bartneriaid i werthu'r ddinas i gefnogwyr o bant a'r cyfryngau ar draws y byd.

Yn ôl yr ystadegau, cafwyd tua 800,000 o ymweliadau â thudalennau gwefan cyrchfan swyddogol Bae Abertawe dros y tymor - mae hynny 44% yn fwy na'r un cyfnod y llynedd.

Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe dros Dwristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau: "Mae'r adborth wedi bod yn wych. Mae perchnogion gwestai'n dweud bod cefnogwyr sy'n ymweld sy'n archebu lle wedi cael effaith galonogol ar fusnes eleni - ac maen nhw'n aros am fwy o amser er mwyn archwilio a mwynhau lleoliadau eiconig megis Rhosili a rhannau eraill o G?yr.

"Mae busnesau canol y ddinas wedi dweud wrthym eu bod yn gweld cefnogwyr o bant yn rheolaidd yn crwydro'r ddinas ac yn mwynhau amser yn y tafarndai a'r bwytai.

"Mae ymdrechion dygn Cyngor Abertawe, Llywodraeth Cymru, y Stadiwm, y Clwb Pêl-droed a phartneriaid busnes lleol yn sicr yn talu'n economaidd ac yn cynyddu proffil Abertawe fel cyrchfan i ymwelwyr."

Llun: Brendan Rogers

Rhannu |