Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn croesawu targed tai Llywodraeth Cymru
Mae llefarydd Plaid Cymru ar dai, Llyr Gruffydd wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu datblygu 7,500 o dai newydd fforddiadwy erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Mae’r targed, a gyflawnir dros dymor pum mlynedd y Llywodraeth Lafur, yn adeiladu ar waith Plaid Cymru a gyflwynodd dipyn mwy na’u targed o 6,500 o dai fforddiadwy yn ystod llywodraeth Cymru’n Un.
Meddai llefarydd Plaid Cymru ar dai, Llyr Gruffydd: “Mae’r targed hwn i’w groesawu. Pan oedd Plaid Cymru mewn llywodraeth, fe wnaethom yn well na’n targed o godi 6,500 o dai fforddiadwy, ac y mae’n dda bod y Llywodraeth Lafur eisiau adeiladu ar y seiliau hynny.
“Prosiectau buddsoddi cyfalaf fel y rhain yw’r union bethau y buom yn galw amdanynt er mwyn cadw’r economi i fynd a lleihau effaith y mesurau llym – nid yn unig y bydd y cyhoeddiad hwn yn sicrhau y gall 7,500 o deuluoedd gael tai fforddiadwy, ond bydd yn newyddion da hefyd i’r diwydiant adeiladu a’r sector preifat wrth iddynt elwa o gontractau adeiladu. Trueni, er hynny, y bu’n rhaid i ni eistedd trwy flwyddyn o ddifrawder tra bu Llafur yn penderfynu a fyddent yn buddsoddi mewn tai ai peidio.
“Mae cwestiynau i’w gofyn o hyd am sut y cyfarfyddir â’r targedau hyn. Rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn amlinellu’n fanwl sut y caiff hyn ei gyllido a’i gyflawni. Dyma ymrwymiad mawr ar ran Llywodraeth Cymru, ac y mae angen iddynt ddilyn yr agwedd agored, gynhwysol a ddnagoswyd gan Blaid Cymru os ydynt am gwrdd a’u targed.”