Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Mai 2012

Rhaglen lawn o weithgareddau yn Nyffryn Nantlle

Rhaglen lawn o weithgareddau ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Dyna mae'r criw brwd Dyffryn Nantlle 20/20 wedi ei baratoi. Daeth y criw at ei gilydd flwyddyn yn ôl i weld beth oedd yn bosib i'w wneud i adfywio'r dyffryn.

“Mae rhywbeth at ddant pawb,” medd Anna Fôn, gwraig gamera o Nebo a Chadeirydd Dyffryn Nantlle 20/20, “o noson o sleidiau nos Fawrth gan y ffotograffydd Geraint Thomas, noson i lansio llyfr Carl Clowes nos Fercher (y ddau i'w cynnal yn Neuadd Goffa Penygroes), cyfle i grwydro y mannau a gaiff eu henwi yng nghaneuon Bryn Fôn ar y nos Iau, a'r ffilm Gaucho yn Neuadd Llanllyfni i ddilyn, gig efo Bryn Fôn a Wali Tomos yn neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle ar y nos Wener (wedi'r gêm beldroed C'mon Midffild) a chyfle i bawb ymlacio yn Y Crochan Blasus, Penygroes efo Noson Bwyd Lleol nos Sadwrn i ddathlu diwedd y gweithgareddau. Rydym yn teimlo'n gyffrous ynglyn â'r prosiect.”

Ardal dlawd yw Dyffryn Nantlle yn economaidd, ond mae'n gyfoethog o ran gweithgareddau cymdeithasol. Er ei fod yn ddyffryn eithriadol o hardd, gyda chysylltiadau llenyddol cyfoethog, nid yw'r ardal yn cael gymaint o ymwelwyr ag y caiff rhywle fel Llanberis. Mae Dyffryn Nantlle 20/20 wedi ei sefydlu gan bobl leol i hyrwyddo'r dyffryn fel y bydd mwy o ymwelwyr yn dod yno, ac y bydd hynny yn rhoi budd economaidd i'r lle. Mae'r pwyslais ar ddatblygu a chefnogi pobl a gweithhgareddau.

Mae'r logo wedi ei gynllunio, am ddim gan ddylunydd lleol – Gringo - ac mae'n debyg y bydd cyfle i'w ddefnyddio yn aml yn 2012. Mae llawer yn cyfrannu yn wirfoddol at gynlluniau'r fenter, ac mae traddodiad cryf yn yr ardal o weithio yn wirfoddol dros bethau lleol a Chymraeg.

“Mae cymaint o bosibiliadau newydd i'r dyffryn,” meddai Anna. “Mae llwybr beicio yn mynd drwy y dyffryn, a'r Cyngor wedi ychwanegu ato ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Mae angen dulliau i ddenu pobl i'r dyffryn ei hun, i gerdded, beicio, bwyta a mwynhau.Un ffordd o'i farchnata fyddai hyrwyddo y ffordd amgen o fwyta a gwersylla, gan fod prinder amlwg yn farchnad yna. Ond mae gennym y pethau sylfaenol hynny sydd yn greiddiol i ddenu ymwelwyr – y mor, y mynyddoedd, yr iaith, y bobl a'r hanes.”

Bydd yr iaith Gymraeg yn gwbl ganolog i weithgaredd Dyffryn Nantlle 20/20. Nid yn unig i'w ffordd o weithredu, ond hefyd fel ffactor i'w farchnata. Mae pobl heddiw yn chwilio am lefydd gwahanol, a bydd ganddynt ddiddordeb mewn aros ac ymweld ag ardal Gymreiciaf Cymry.

“Mae'n fwriad gennym hyfforddi pobl i dywys ymwelwyr. Mae hyn wedi ei wneud ym Mlaenau Ffestiniog, ac mae'r tywyswyr yno wedi bod draw yn ein rhoi ar ben y ffordd,” meddai Craig ab Iago, sydd newydd ei ethol fel cynghorydd lleol ac sy'n Is-Gadeirydd Dyffryn Nantlle 20/20.

“Ni yw'r arbeinigwyr gorau ar ein hanes lleol, a ni ddylai ei ddehongli i bobl o'r tu allan. Mae cynllun ar y gweill i gynnal cwrs Cynefin a Chymuned, ar y cyd gyda Antur Stiniog, i sicrhau fod pawb sydd â diddordeb yn yr awyr agored (i fwynhau neu gweithio) gyda gwybodaeth a dealltwriaeth o'r etifeddiaeth leol.

 

“Mae'n bwysig cael gweledigaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf,” meddai Craig. “Mae pethau yn fywiog iawn yn y dyffryn ar hyn o bryd, ond mae pobl ifanc yn gadael ar raddfa ddychrynllyd.”

Carai aelod arall o'r grwp, Angharad Tomos, weld y lle yn cael ei ddatblygu fel cyfle i bererindod lenyddol.

“Hoffwn weld bysus o blant yn dod yma o ysgolion led led Cymru” meddai. “Boed o'n Parry Williams, Williams Parry, Gwilym R, Mathonwy Hughes, Kate Roberts, John Gwilym Jones, mae nhw i gyd o fewn milltir neu ddwy i Benygroes, a does dim byd gwell na chlywed geiriau'r llenorion hyn yn eu cynefin. Does dim rhaid edrych yn ôl i'r gorffennol ychwaith, mae Karen Owen a Bryn Fôn yn byw yma ac yn dal i dynnu ysbrydoliaeth o'r tir.”

 

Y rhaglen lawn:

Nosweithiau y Steddfod, Mehefin 5ed - 9fed

5ed, Nos Fawrth, 7.00

Neuadd Goffa Penygroes
Llynnoedd yr Ardal
Noson o sleidiau gan y ffotograffydd lleol, Geraint Thomas. Cyfle unigryw i weld y lluniau yn ei gyfrol ddiweddar. Mynediad £2.00


6ed, Nos Fercher, 7.30
Neuadd Goffa Penygroes
Cydweithio er mwyn y Gymraeg

Noson i ddathlu cyfraniad cymuendau Cymru a lansio llyfr newydd Dr Carl Clowes. Trefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg

 

7fed, Nos Iau, 6.30

Neuadd Llanllyfni
Taith Bryn Fôn

Cyfle i fynd am dro i weld y llefydd yn ei ganeuon - 7.30 Dangos y ffilm “Gaucho”. Mynediad £2.00

 

8fed, Nos Wener, 7.30

Neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle
Yn dilyn y gêm C'mon Midffild
Gig Bryn Fôn, gyda Wali Tomos a Y Rhacs
Mynediad: plant ysgol £4; oedolion £8; tocyn teulu £20. Ar gael o Ysgol Dyffryn Nantlle a Siop Parri Penygroes. Manylion: annafon1@aol.com
Trefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a Dyffryn Nantlle 20/20

 

9fed, Nos Sadwrn, 6.30

Crochan Blasus, Penygroes
Noson Bwyd Lleol

Bwffe gyda chynnyrch lleol, a 12 stondin cynhyrchwyr lleol. £5.00 y pen (£3.50 i blant)

 

Rhannu |