Mwy o Newyddion
£5 miliwn i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg, wedi cyhoeddi yr wythnos yma y bydd cyllid gwerth dros £5 miliwn yn cael ei roi i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.
Caiff grantiau y Gymraeg mewn Addysg eu dyfarnu i awdurdodau lleol yn flynyddol er mwyn eu cynorthwyo i wella a chynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhoi hyfforddiant yn yr iaith Gymraeg a hyfforddiant ar fethodoleg i athrawon ac ymarferwyr, rhoi cymorth dilynol i’r rheini sydd wedi cwblhau’r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg a darparu ystod o weithgareddau cyfrwng Cymraeg y tu fas i’r ysgol, megis cwisiau llyfrau Cymraeg, digwyddiadau a chyrsiau preswyl.
Eleni, mae £200,000 o gyllid ychwanegol wedi’i glustnodi ar gyfer prosiectau newydd gyda’r nod o wella’r dilyniant ieithyddol rhwng yr ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd a chynyddu’r nifer sy’n gallu cael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg drwy raglenni trochi hwyrddyfodiaid.
Mae disgwyl i’r awdurdodau lleol gyfrannu arian cyfatebol sy’n werth o leiaf 33% o’u dyraniad.
Dywedodd Mr Andrews: “Rwyf wedi ymroi i weld yr iaith Gymraeg yn ffynnu a hynny drwy roi mynediad i addysg Gymraeg i bobl a hefyd drwy greu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’r iaith y tu allan i gatiau’r ysgol. Bydd yr arian hwn yn datblygu ac yn cryfhau’r ddarpariaeth o ran addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru yn unol â’n Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.
"Mae’r buddsoddiad hwn yn cefnogi Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru drwy ariannu prosiectau sy’n rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd anffurfiol y tu allan i’r ysgol.”
Mae cyfanswm o £5.63 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012/13. Dyma sut y caiff ei ddyrannu:
£400,000 ar gyfer prosiectau sydd wedi’u hanelu at wella’r dilyniant ieithyddol rhwng yr ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd ynghyd â chynyddu’r mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg drwy ddefnyddio rhaglenni trochi hwyrddyfodiaid. Bydd £200,000 yn cael ei ddefnyddio i ariannu 14 prosiect sydd ar y gweill ar hyn o bryd gan sicrhau eu bod yn parhau. Sefydlwyd y prosiectau hynny gan Fwrdd yr Iaith. Bydd hyd at £200,000 yn fwy yn cael ei glustnodi i sefydlu prosiectau newydd.
£200,000 ar gyfer Tîm Cymorth Cymraeg mewn Addysg CBAC.
£5.03 miliwn ar gyfer y Grantiau Cymraeg mewn Addysg i awdurdodau lleol. Mae’r ceisiadau a wnaed gan bob un o’r 22 awdurdod lleol wedi’u gwerthuso yn erbyn meini prawf penodol. Mae’r meini prawf hynny yn adlewyrchu’r blaenoriaethau a nodwyd gan yr awdurdodau lleol yn eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Disgwylir i’r awdurdodau gyfrannu arian cyfatebol sy’n werth o leiaf 33% o’u dyraniad.
Llun: Leighton Andrews