Mwy o Newyddion
Croesawu addewidrhwydwaith ffilm ar draws y Deyrnas Unedig
Mae Hywel Williams AS Plaid Cymru wedi croesau addewid y Llywodraeth i ddatblygu rhwydwaith ffilm ar draws y Deyrnas Unedig a fyddai’n gweithio gydag asiantaethau sgrin yn Nghymru ar brosiectau ar-y-cyd a rhaglenni traws-ddiwylliannol.
Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Llywodraeth gyhoeddi ei ymateb i Adolygiad Annibynol a gyhoeddwyd fis Ionawr, “a Future For British Film: It begins with the audience…”, a archwiliodd ddiwydiant ffilm y DU gan gyflwyno argymhellion i’r Llywodraeth a’r diwydiant ei hun.
Dywedodd Mr Williams: “Rwy’n falch fod y Llywodraeth wedi croesawu argymhellion yr Adolygiad, yn enwedig y syniad y dylai’r BFI gyflwyno strategaeth i ddatblygu rhwydwaith ffilm ar draws y DU gan gynnwys Asiantaeth Ffilm Cymru.
“Gobeithio mai dyma’r cam cyntaf o nifer fydd yn symud diwydiant ffilm Cymru yn nes at y cydnabyddiaeth, parch a chefnogaeth mae ei angen i chwarae rol llawn ym mywyd diwylliannol ac economaidd ein cenedl.
“Mae ffilmiau gwych wedi eu cynhyrchu yn y Gymraeg a’r Saesneg megis Hedd Wyn, Solomon a Gaenor, Gadael Lenin, Twin Town ac yn ddiweddar ffilm anhygoel Michael Sheen, Gospel of Us. Mae’r diwydiant ffilm Cymreig yn chwarae rhan allweddol yn ein galluogi i gynrychioli ein hunain a sicrhau dyfodol i’n hiaith a diwylliant.
“Er hyn, mae’r diwydiant ffilm Prydeinig wedi canolbwyntio’n bennaf ar Loegr erioed, gydag un llygad wedi ei hoelio ar Hollywood, ac mae’r BFI ei hun wedi cyfaddef yn Adolygiad Ionawr fod yr anghydbwysedd hyn yn cyflwyno her i wledydd a rhanbarthau eraill y DU sydd ar hyn o bryd ddim yn cael cynrychiolaeth deg.
“Mae’n simoedig fod Argymhelliad 3 ac ymateb ehangach y Llywodraeth yn ymddangos fel pe bai’n gweld y Cymry fel prynwyr, yn hytrach na chynhyrchwyr ffilm. Yr argraff a geir yw mai ychwanegiad yw’r cynnig hwn i system gynhyrchu ffilm sydd wedi ei seilio yn ne ddwyrain Lloegr.
“Felly, mae hyd yn oed yr argymhelliad cadarnhaol hwn yn rhoi’r pwyslais ar Loegr, a chaiff Cymru ond ei chrybwyll unwaith mewn 26 tudalen o sylwadau.
“Wrth i Wyl Cannes agor am eleni, byddai Prydain yn elwa o edrych at Ewrop er mwyn datblygu gwerthfawrogiad o gynhyrchiadau aml-ddiwyllianol ac aml-ieithog. Mae poblogrwydd cyfresi diweddar megis Borgen, The Bridge, ac hyd yn oed y ffilm ddi-sain The Artist, yn dangos nad ydi iaith (neu ddiffyg iaith!) yn rwystr i lwyddiant.
“Rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn rhoi’r argymhelliad ar waith yn fuan fel y caiff diwydiant ffilm Cymru y platfform angenrheidiol i arddangos y cyfoeth o dalent sydd gennym i’w gynnig yng Nghymru.”
Llun: Hywel Williams